Back

JONATHAN ANDERSON PYLON TOTEMS

Mae gwaith Anderson yn alinio syniadau metaffisegol gyda deunyddiau diwydiannol: caiff glo, bitwmen, tywod a phridd eu defnyddio’n aml. Yn fynych yn gerfluniol, mae ei weithiau yn faleisus ac yn hardd ar yr un pryd. Mae ‘Pylon Totems’, wedi eu mantellu mewn carpiau a bitwmen, yn gwneud cyfeiriadau croes-ddiwylliannol at Groesau, Cerfddelwau Bwdhaidd Asiaidd, Doliau Fwdw De America ac Affrica. Fodd bynnag, daeth yr ysbrydoliaeth o’r cannoedd o beilonau trydan sy’n igam-ogamu ar draws tirwedd Cymru. Mae’r gwaith yn gweithredu fel arf myfyriol i ystyried materion cyfoes o ecoleg, crefydd a gwleidyddiaeth.

Bydd digwyddiad agoriadol gyda chyflwyniad gan yr artist ar 6 Hydref am 6yh

jonathanandersonartist.com

jonathanandersonartist

Free

Browse more shows tagged with:

Top