Back

NT Live: King Lear (12A As Live)

By William Shakespeare

Wedi ei darlledu’n fyw o’r West End yn Llundain, dewch i weld King Lear Ian Mckellen yn y sinema.

Jonathan Munby sy’n cyfarwyddo’r ailadroddiad hwn ar ddrama dyner, dreisiol, drawiadol ac ysgytiol Shakespeare. Wedi ei ystyried gan nifer fel y drasiedi orau a ysgrifennwyd erioed, mae King Lear yn gweld dau dad sy’n heneiddio - un yn Frenin, y llall yn was iddo - yn gwrthod y plant sy’n eu caru. Mae eu dallineb yn arwain at gorwynt o uchelgais didrugaredd a brad, wrth i deulu a gwlad blymio i ymryson treisiol am bŵer gyda chanlyniadau chwerw.

£12.50 (£11.50)

220 Minutes

Browse more shows tagged with:

Top