Back

penny d jones: TEIMLO LLAIS

Mae Teimlo Llais yn osodwaith rhyngweithiol sy’n cynnwys cwilt defnydd, cwilt ceramig a lleisiau menywod yn siarad yn Gymraeg. Mae’r arddangosfa hon yn anterth y prosiect ymchwil a datblygu ‘Llais Menywod’ yn 2016 a amlygodd yr angen i leisiau menywod cael eu clywed. Mae’r ffocws ar gyffwrdd a sain yn gwneud yr arddangosfa hon yn addas ar gyfer pobl ddall a phobl sy’n rhannol ddall. Mae penny d jones yn artist sy’n teimlo bod yr Iaith Gymraeg a Lleisiau Menywod yn hollbwysig.

Bydd perfformiad gan gôr merched lleol i lansio’r arddangosfa sy’n seiliedig ar gydweithrediad â penny d jones ar 7 Medi am 6:20pm

AM DDIM

Browse more shows tagged with:

Top