Back

Dangosiadau hygyrch

DDANGOSIADAU HAMDDENOL

 

Beth yw’r rhain? 

Mae Dangosiadau sy’n addas ar gyfer Awtistiaeth yn ddangosiadau sydd wedi eu haddasu’n gynnil i greu amgylchedd sy’n groesawgar i bobl sydd ag ystod o gyflyrau megis awtistiaeth, anableddau dysgu ac anrhefn wybyddol. Mae’r lefelau sain wedi eu lleihau ynddynt, y golau wedi ei adael arno ar lefel isel ac nid oes unrhyw hysbysluniau ar ddechrau’r ffilm. Gall mynychwyr ddod â bwyd a diod eu hun i’r sinema, gallant fod yn swnllyd ac eistedd ble bynnag sydd fwyaf cysurus iddynt. Ar gyfer y dangosiadau hyn ni allwch gadw seddau penodol a fe fydd ystafell dawel ar gael cyferbyn â’r awditoriwm os oes angen i unrhyw un ei defnyddio.

                            

Dangosiad hamddenol nesaf - 

 

INSIDE OUT 2 (U) Dydd Sul 8 Medi @ 5.15pm

TRANSFORMERS ONE (PG) Dydd Sadwrn 19 Hydref @ 1.15pm 

DESPICABLE ME 4 (U) Dydd Mawrth 29 Hydref @ 2.00pm

 

 

 

DDANGOSIADAU GYDAG ISDEITLAU 

Beth yw’r rhain?

Mae dangosiadau gydag isdeitlau/capsiynau yn darparu trawsgrifiad o’r sain mewn ffilm, wedi ei arddangos ar hyd gwaelod y sgrin sinema. Ynghyd â deialog y ffilm, mae’r is-deitlau’n cynnwys sain nad yw’n ddeialog megis “(mae’n ochneidio)” neu “(drws yn gwichian)”.

Pwy all elwa o’r rhain?

Pobl sy’n Drwm eu Clyw

 

Ddangosiadau nesaf gydag isdeitlau yw:

 

Deadpool & Wolverine (15) Nos Lun 5 Awst @ 8.15pm 

Longlegs (15) Nos Fawrth 6 August @ 7.30pm

Harold & The Purple Crayon (PG) Nos Fercher 7 Awst @ 7.00pm 

Alien Romulus (15) Nos Sul 18 Awst @ 7.00pm 

It Ends With Us (15) Nos Fawrth 27 Awst @ 7.30pm 

Kensuke's Kingdom (PG) Dydd Sadwrn 31 Awst @ 2.15pm

Thelma (12A) Nos Lun 2 Medi @ 7.45pm

Borderlands (12A) Nos Fercher 4 Medi @ 7.00

The Crow (18) Nos Fawrth 10 Medi @ 7.30pm 

Beetlejuice Beetlejuice (12A) Nos Fercher 11 Medi @ 7.15pm 

Blink Twice (15) Nos Sul 15 Medi @ 7.45pm 

Wolfs (15 TBC) Nos Fercher 25 Medi @ 7.30pm 

Lee (15) Nos Fawrth 1 Hydref @ 7.00pm 

The Outrun (15) Nos Sul 6 Hydref @ 8.00pm 

Speak No Evil (15) Nos Fawrth 8 Hydref @ 7.00pm

Tranformers One (PG) Nos Sul 20 Hydref @ 6.45pm

Joker: Folie A Deux (15 TBC) Nos Wener 25 Hydref @ 7.15pm 

The Wild Robot (U) Dydd Llun 28 Hydref @ 4.15pm

Salem's Lot (15) Nos Fawrth 29 Hydref @ 7.15pm

Megalopolis (15 TBC) Nos Fawrth 5 Tachwedd @ 7.00pm 

Small Things Like These (15 TBC) Nos Fercher 6 Tachwedd @ 7.30pm 

Venom: The Last Dance (15 TBC) Nos Fawrth 12 Tachwedd @ 7.15pm

 

Nodwch os gwelwch yn dda, nad oes isdeitlau ar gael ar bob ffilm, ond ble bynnag y mae’n bosibl rydym yn anelu at geisio dangos o leiaf un ffilm â chanddi isdeitlau o’r ffilmiau hynny sydd wedi eu hisdeitlo. 

 

 

 

DANGOSIADAU SAIN DDISGRIFIO

(Ar hyn o bryd nid oes cyfleuster ar gyfer sain ddisgrifioym Mwldan 3)

 

Beth yw’r rhain? 

Bydd dangosiadau sain ddisgrifio yn darparu sylwebaeth leisiol sydd wedi recordio o flaen llaw sy’n disgrifio nodweddion megis y cyffro, iaith gorfforol, mynegiadau a symudiadau yn ystod y ffilm. Mae’r sylwebaeth yn ffitio o fewn y seibiau tawel yn y ffilm, fel nad yw’n torri ar draws y deialog. Mae’n drac sain ar wahân caiff ei ddarlledu trwy glustffonau diwifr, a dim ond y person sy’n eu gwisgo bydd yn ei glywed.

Siaradwch â’n Swyddfa Docynnau oes bydd angen clustffonau arnoch.

Am fwy o wybodaeth am hyn cyfeiriwch at: http://www.rnib.org.uk

Pwy all elwa o’r rhain?

Pobl â nam ar eu golwg. Mae Sain Atgyfnerthu ar gael ar ein holl ddangosiadau sinema a’n digwyddiadau darlledu byw.

Byddwch yn ymwybodol, nid yw ein gwasanaeth Sain Ddisgrifio ar gael ar hyn o bryd ym Mwldan 1. Rydym yn gweithio'n galed i ddatrys y mater hwn cyn gynted ag y gallwn.

 

 

Am fwy o wybodaeth cyfeiriwch at http://www.dimensions-uk.org/support-services/autism-care/autism-friendly-screenings/

 

 

 

DANGOSIADAU SAIN ATGYFNERTHU

(Ar hyn o bryd nid oes cyfleuster ar gyfer atgyfnerthu sain ym Mwldan 3)

 

Beth yw hwn?

Mae Sain Atgyfnerthu yn gyfleuster sy’n atgyfnerthu trac sain y dangosiadau sinema trwy glustffonau. Mae hyn yn gweithredu yn lle’ch cymorth clyw.

Mae Sain Atgyfnerthu ar gael ar bob un o’n dangosiadau sinema - gofynnwch i’n swyddfa docynnau am glustffonau os hoffech wneud defnydd o’r gwasanaeth hwn.

 

Pwy all elwa o’r rhain?

Pobl sy’n Drwm eu Clyw.

 

Top