Judy (12A)

Rupert Goold | UK | 2019 | 118’

Gaeaf 1968, ac mae’r perfformwraig enwog Judy Garland (Renée Zellweger) yn cyrraedd Llundain llawn miri i berfformio’r sioe hynod lwyddiannus Talk of The Town dros gyfnod o bum wythnos. Mae’n 30 mlynedd ers iddi ddod yn seren fyd-eang yn The Wizard of Oz, ond os yw ei llais wedi gwanhau, yna mae ei ddwysedd dramatig wedi cynyddu. Wrth iddi baratoi ar gyfer y sioe, brwydro gyda rheolwyr, swyno cerddorion a hel atgofion gyda ffrindiau, mae ei ffraethineb a’i chynhesrwydd yn tywynnu.

£7.70 (£5.90)

Browse more shows tagged with: