Little (12A)
Tina Gordon | 2019 | USA | 109’
Mae gan Jordan dipyn o rym ac mae’n bwlio pawb o’i chwmpas. Pan mae’n trawsnewid yn annisgwyl i fersiwn 13 mlwydd oed ohoni hi ei hun, ni all bywyd barhau fel y mae. Mae’r esgid ar y droed arall pan mae ei chynorthwyydd goddefgar yn dod yn warcheidwad iddi ac mae Jordan yn ceisio addasu i fywyd yn ôl yn yr ysgol. Yn seiliedig ar syniad gwreiddiol Marsai Martin, seren Black-ish, ac yn serennu hithau fel y Jordan ifanc. Gan wneuthurwyr Girls Trip, Black-ish a Ride Along.
£7.70 (£5.90)