SMOKE SAUNA SISTERHOOD (15)

ANNA HINTS | ESTONIA | 2023 | tbc’

Mae'r ffilm ddogfen hon, sydd wedi ennill gwobr Sundance, yn dathlu undod a chymuned fenywaidd trwy grŵp o fenywod o Estonia sy'n parhau â thraddodiad oesol o ddefodau sawna a gyflawnir gan y gymuned Voro. Mae ffilm gyfareddol Anna Hints yn ein gosod yng nghanol y byd hwn. Wrth i’r merched ymlacio a siarad, ceir hiwmor sy’n deillio o’u cyfarwydd-deb â’i gilydd ac o brofiadau a rennir, ond ceir hanesion hefyd am boen a dioddefaint. Yn nhywyllwch sawna mwg, mae menywod yn rhannu eu cyfrinachau mewnol a’u profiadau personol, gan olchi i ffwrdd y cywilydd oedd yn eu cyrff ac adennill eu cryfder trwy ymdeimlad o gymundeb.

£8.40 (£7.70) (£5.90)

Rhybudd. Nid yw'r hysbyslun hwn yn addas ar gyfer cynulleidfaoedd iau.

Browse more shows tagged with: