Theatr Genedlaethol Cymru: Hollti

gan Manon Wyn Williams

“Dim y ni sy efo gafal ar y tir, ond y tir sy efo gafal arnan ni.”

Mae datblygiadau ar y gweill i greu atomfa newydd ar Ynys Môn. Ond pa effaith gaiff yr Wylfa Newydd ar ei chymdogion agosaf wrth i beiriant mawr cyfalafiaeth geisio llyncu fferm sydd wedi bod yng ngofal yr un teulu ers cenedlaethau?

Oes gennym ni ddewis? Sut arall fedrwn ni ofalu na fydd y golau’n diffodd? Ac onid oes gwir angen y swyddi?

Dyma ddrama air-am-air newydd a beiddgar am hawl ein cymunedau i lunio’u dyfodol eu hunain.

Gyda sgript wedi’i chreu o gyfweliadau gyda thrigolion lleol, daw cast o wynebau cyfarwydd â’r dadleuon yn fyw.

Cyfarwyddwr: Sarah Bickerton (cyfarwyddwr Nansi, Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau, 2015).

Yn seiliedig ar syniad gwreiddiol gan Sarah Bickerton a Marred Glynn Jones.

#Hollti

Mynediad ar gyfer y di-Gymraeg drwy gyfrwng SIBRWD – lawrlwythwch yr ap.

£12 (£10)
Mynediad ar gyfer y di-Gymraeg drwy gyfrwng SIBRWD – lawrlwythwch yr ap.
Bydd trafodaeth ar ôl perfformiad ‘Hollti’ heno gydag aelodau'r cast a gyda Ceri Wyn Jones yn cadeirio.

Browse more shows tagged with: