Richard Thompson (2022)

 

HYRWYDDIAD AR Y CYD GAN THEATR MWLDAN / CASTELL ABERTEIFI

Drysau 6.30pm

 

Gyda’i grefft o gyfansoddi caneuon atgofus, ei chwarae gitâr syfrdanol, a’i ysbryd unigryw, fe lansiodd Richard Thompson ei yrfa trwy gyd-sefydlu Fairport Convention, sy’n gyfrifol am danio mudiad Roc Gwerin Prydain. Ers hynny mae wedi cael un o’r gyrfaoedd mwyaf llwyddiannus a gwobrwyedig ym myd cerddoriaeth... OBE, Gwobr Llwyddiant Oes y BBC, gwobrau Ivor Novellos a gwobrau Americana Nashville. Enwodd Rolling Stone ef yn un o’r 20 Gitarydd Gorau erioed, mae’r rhestr yn mynd ymlaen. Mae ei ddylanwad yn bellgyrhaeddol ac mae pawb o Robert Plant, Don Henley ac Elvis Costello i REM, Christy Moore a David Bryne wedi mynd ati i greu eu fersiynau eu hunain o’i gerddoriaeth. Ef oedd gitarydd Nick Drake a defnyddiodd Werner Herzog ei ddoniau ar gyfer y trac sain hynod hardd i Grizzly Man (a gafodd ei ail-ryddhau yn ddiweddar).

 

£30

“The finest rock songwriter after Dylan and the best Electric guitarist since Henrix
Los Angeles Times
One of the Top 20 Guitarists of All Time
Rolling Stones Magazine

GWYBODAETH HANFODOL

 

  • Ni roddir ad-daliadau ar docynnau ar gyfer digwyddiadau a hyrwyddir ar y cyd gan Gastell Aberteifi | Theatr Mwldan yw'r unig werthwr tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn.
  • Bydd rhagor o wybodaeth hanfodol yn cael ei rhoi i chi bythefnos cyn y digwyddiad drwy e-bost.
  • Mae hwn yn ddigwyddiad lle byddwch yn sefyll ar eich traed, er bod croeso i chi ddod â'ch cadair wersylla â chefn isel eich hun (rhaid gosod hon yn y parth dynodedig i ffwrdd o'r brif ardal ddawnsio).
  • Siaradwch â'n swyddfa docynnau os oes gennych unrhyw ofynion hygyrchedd a gwnawn ein gorau i ddarparu ar gyfer hynny. Neilltuir man eistedd ar gyfer cadeiriau olwyn a'r rheiny sydd ag anawsterau symudedd. Os hoffech ddefnyddio'r cyfleuster hwn, rhowch wybod i ni wrth i chi archebu tocynnau gan ddefnyddio'r blwch sylwadau ar-lein, neu drwy ein swyddfa docynnau os ydych yn archebu dros y ffôn.
  • Argymhellir archebu tocynnau ymlaen llaw i osgoi cael eich siomi. Ni allwn sicrhau y bydd tocynnau ar gael wrth y drws.
  • Yn y digwyddiad hwn, ni chaniateir bwyd a diod ar y safle sydd wedi ei brynu y tu allan i'r Castell.  Mae croeso i chi ddod â photel ddŵr wag gyda chi i'r safle, y gallwch ei hail-lenwi ym Mar y Pafiliwn.