THE BOOTLEG BEATLES

 

YM CYMRYD LLE YNG NGHASTELL ABERTEIFI

HYRWYDDIR AR Y CYD GAN THEATR MWLDAN A CASTELL ABERTEIFI

Drysau 6.30pm

Cerddoriaeth o 7.30pm

Gyda cefnogaeth gan Mattoidz

 

Eleni, yn dathlu 40 mlynedd ers eu perfformiad cyntaf ar lwyfan y West End yn ‘Beatlemania’, mae band Beatles blaenaf y byd yn parhau i ddenu canmoliaeth gan y beirniaid wrth iddynt ail-greu’r caneuon gorau erioed yn berffaith. Wrth olrhain taith y Fab Four trwy’r ‘swinging sixties’, telir sylw manwl gywir at bob manylyn bach o’u gwisgoedd a’u hofferynnau cyfnod dilys, i’w direidi ffraeth ar y llwyfan a’u lleisiau “perffaith o ran goslef”. Mae'r sioe hon yn hanfodol i Beatlemaniacs o bob oed.

 

Gyda cefnogaeth gan Mattoidz

50% Sir Benfro... 25% Sir Gar... 25% Ceredigion... 100% Roc!

 

Ffurfiodd Mattoidz yn 2002 ar gyfer brwydr y bandiau yn Eisteddfod Tyddewi. Wedi eu hysbrydoli gan fandiau'r gorllewin - DOM, Jess ac Ail Symudiad - recordiodd y band eu halbym cyntaf‘Edrych yn well o bell’ yn stiwdio Fflach yn 2005 - enwebwyd hwnnw ar gyfer albym y flwyddyn yng ngwobrau roc a phop Radio Cymru ac arweiniodd hynny at Mattoidz yn ennill gwobr band y flwyddyn y flwyddyn wedyn. 

https://www.youtube.com/watch?app=desktop&v=4BHC_mLYdBA

 

£30 (£20 o dan 18 oed)

Entirely convincing
The Times
A joy to behold
The Telegraph
Mind-boggling accuracy
The Mail on Sunday

Browse more shows tagged with: