Cloudbusting - The Music of Kate Bush @ Castell Aberteifi Cardigan Castle

YM CYMRYD LLE YNG NGHASTELL ABERTEIFI

HYRWYDDIR AR Y CYD GAN Y MWLDAN A CASTELL ABERTEIFI

Drysau 6.30pm

Cerddoriaeth o 8.00pm

 

Fel yr act deyrnged i gerddoriaeth Kate Bush sydd wedi rhedeg hiraf ac sydd wedi’i chanmol fwyaf, mae Cloudbusting wedi’i chymeradwyo gan BBC ONE fel un o’r teyrngedau mwyaf dilys yn y byd. Mae eu brwdfrydedd am gerddoriaeth Kate wedi darbwyllo cefnogwyr amheus ym mhobman, gan herio canfyddiadau o’r hyn y gall band teyrnged fod ac wedi arwain at berfformiadau gwerth chweil ledled y DU.

‘Utterly, surreally brilliant’ - Mick Wall, Cylchgrawn Classic Rock

Gan fynd ati i archwilio repertoire unigryw Kate, mae Cloudbusting yn eich tywys ar daith ryfeddol wrth iddyn nhw edrych ar themâu Cariad a Dicter. Boed yn gyffrous neu’n ingol, yn llawen neu’n ddig, yn ddiniwed, yn chwerw neu hyd yn oed yn dabŵ - un peth sy’n sicr yw nad yw’r llwybr byth yn syml yn llyfr caneuon Kate! Bydd y cynhyrchiad llwyfan dwyawr o hyd hefyd yn cynnwys yr holl ganeuon poblogaidd y byddech yn disgwyl eu clywed - Wuthering Heights, Hounds Of Love, Running Up That Hill, Babooshka – y cyfan gyda canu syfrdanol a dawn gerddorol wych.

Mae llawer o gydweithwyr gwreiddiol Kate o’r llwyfan a’r stiwdio wedi’u hysbrydoli i ymuno â’r band ar y llwyfan, gan gynnwys y chwaraewr bas Del Palmer, y drymiwr Preston Heyman a’r dawnsiwr Stewart Avon Arnold, pob un ohonynt wedi perfformio gyda Kate yn Tour of Life, ei sioeau byw enwog yn ôl ym 1979.

Bydd y sioe syfrdanol hon yn eich tywys ar daith anhygoel trwy themâu cariad a dicter trwy repertoire hynod Kate, yn ogystal â chynnwys perfformiadau o’r holl ganeuon y byddech chi'n disgwyl eu clywed - Wuthering Heights, Hounds Of Love, Running Up That Hill, Babooshka a llawer mwy!

 

£25.00 (£18.00 O dan 18)

Utterly, surreally brilliant
Mick Wall, Cylchgrawn Classic Rock

Browse more shows tagged with: