CÔR CYMRY GOGLEDD AMERICA / NORTH AMERICAN WELSH CHOIR

 

YM CYMRYD LLE YNG NGHASTELL ABERTEIFI

HYRWYDDIR AR Y CYD GAN THEATR MWLDAN A CASTELL ABERTEIFI

Drysau 6.30pm

Cerddoriaeth o 7.30pm

 

Mae’n bleser gennym groesawu Côr Cymry Gogledd America i berfformio yng Nghastell Aberteifi ar y 5ed o Orffennaffel rhan o’i daith ben-blwydd yn 25 oed o gwmpas Cymru; taith arwyddocaol gyntaf y côr o gwmpas Cymru ers 2002. Ar y daith bydd dros 60 o gantorion talentog Côr Cymry o dros 17 o daleithiau America a 3 talaith yng Nghanada, pob un ohonynt yn ddisgynyddion mewnfudwyr o Gymru, newydd-ddyfodiaid, alltudion, ac eraill sy'n teimlo cysylltiad i gerddoriaeth a chymuned Côr Cymry Gogledd America.

Bydd eu repertoire, sy’n cael ei ganu yn y Gymraeg a’r Saesneg, yn cynnwys tri darn o waith sydd newydd eu comisiynu yn deillio o bob cwr o Gymru gan rai o’n cyfansoddwyr a’n hawduron cyfoes mwyaf nodedig, gan gynnwys Cefin Roberts ac Einion Dafydd (Gogledd Cymru), Penri Roberts a Linda Gittins (Canolbarth Cymru), a Mererid Hopwood ac Eric Jones (De Cymru).

 

Sefydlwyd Côr Cymry Gogledd America ym 1998 gan ei Gyfarwyddwr Artistig ac Arweinydd, Dr. Mari Morgan, ac ymddangosodd am y tro cyntaf ym 1999 yn y Gymanfa Ganu Genedlaethol, a elwir bellach yn North American Festival of Wales. Ac yntau’n cael ei adnabod fel y “Côr Cymunedol sy’n rhychwantu Cyfandir,” roedd aelodau côr pellennig Côr Cymry Gogledd America ymhlith y cyntaf i ddefnyddio’r rhyngrwyd i helpu i ddysgu cerddoriaeth ac iaith, ac i gadw trefn ar weithgareddau’r côr.

Ers 1999, mae’r côr wedi perfformio ledled y byd, o Efrog Newydd i Seland Newydd, ac wedi rhyddhau sawl recordiad, gan gynnwys Lifting the Sky, perfformiad pen-blwydd byw yn Trinity Church, Wall Street, Efrog Newydd, NY.

Maen nhw wedi perfformio fel rhan o Gyngherddau Cofio 9/11 (Trinity Church, Wall Street, Efrog Newydd ac ar safle'r hyn a fyddai'n dod yn Ardd Goffa Brydeinig), wedi cynnal Cyngerdd yn y Smithsonian yn Washington, DC fel rhan o raglen y Sefydliad yn dathlu Iwerddon a Chymru; ac wedi perfformio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru dan lywyddiaeth y Prif Weinidog ar y pryd, Rhodri Morgan.

 £15

 

www.CorCymryGogleddAmerica.com

@corcymry

 

Ar Daith Gorffennaf | July 1- 9, 2023:

 

1af Gorffennaf: Eglwys y Santes Fair, Conwy

 

4ydd Gorffennaf: Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth

 

5ed Gorffennaf Castell Aberteifi, Aberteifi

 

8fed Gorffennaf: Eglwys Priordy’r Santes Fair, Y Fenni

Browse more shows tagged with: