Natalie Imbruglia

 

YM CYMRYD LLE YNG NGHASTELL ABERTEIFI

HYRWYDDIR AR Y CYD GAN Y MWLDAN A CASTELL ABERTEIFI

Drysau 6.30pm

Cerddoriaeth o 7.30pm

Gyda cefnogaeth gan Lowri Evans

 

Daeth y gantores-gyfansoddwraig o Awstralia, Natalie Imbruglia i’r amlwg ym 1997 gyda’i halbwm cyntaf arloesol Left Of The Middle. Fe wnaeth hi ddwyn ein calonnau am y tro cyntaf gyda'i chân lwyddiannus, Torn. Cafodd y gân lwyddiant rhyngwladol ar unwaith gan gyrraedd #2 yn Siart Recordiau Sengl y DU, #1 o ran cael ei chwarae ar y radio o amgylch y byd a #1 yn siart Billboard Airplay am 14 wythnos, gyda mwy na miliwn o gopïau wedi’u gwerthu yn y DU yn unig. Aeth Left Of The Middle ymlaen i werthu dros 7 miliwn o gopïau ledled y byd a dathlodd ei ben-blwydd yn 25 oed ym mis Tachwedd 2022. 

Dychwelodd Natalie’n llwyddiannus i’r brig gyda’i chweched albwm stiwdio, Firebird, a gafodd ei ryddhau yn 2021 gan dderbyn clod gan y beirniaid. Fe saethodd yn syth i Rif 10 yn y siartiau. Yn dilyn ymlaen o lwyddiant Firebird, mae Natalie wedi perfformio’n helaeth yn y DU ac Ewrop, yn ogystal â denu sylw yn Awstralia drwy gyflwyno Gwobrau mawreddog ARIA a pherfformio ochr yn ochr ag Andrea Bocelli. 

Mae Natalie wedi ennill 8 Aria, 2 Wobr Brit, un Wobr Gerddoriaeth Billboard ac mae wedi derbyn tri Enwebiad Grammy. Yn fwyaf diweddar, cafodd Natalie cameo yn y bennod olaf erioed o Neighbours lle bu’n chwarae rhan Beth Brennan yn ystod y 90au. Yn ogystal, enillodd hi drydedd gyfres fersiwn y DU o The Masked Singer. Ar hyn o bryd mae Natalie yn gweithio ar ddeunydd newydd a bydd hi’n parhau i deithio a rhyddhau cerddoriaeth yn 2023.

 

Gyda cefnogaeth gan Lowri Evans

 

Wedi’i disgrifio gan BBC Radio 2 Bob Harris fel “Un o’i hoff artistiaid” mae Lowri wedi’i bendithio â llais sy’n llawn o pŵer emosiynol eang, gyda’i chaneuon dwyieithog yn cymryd eu lliwiau cerddorol o balet eang sy’n cynnwys Americana, Gwerin, Gwlad a Blues, i gyd wedi’u gwau’n hyfryd gyda’i gilydd drwyddo ei cherddoriaeth gynhenid ​​a'i thraddodi calon. Mae caneuon Lowri wedi cael eu cynnwys ar restr chwarae ar Radio’r BBC ac mae hi yn perfformio’n rheolaidd mewn lleoliadau ledled y DU ac America ac mewn gwyliau fel Cambridge Folk a Gwyl Greenman. 

Fe fydd Lowri yn perfformio gyda'i trio.

 

https://www.youtube.com/watch?v=l0mmRQP6vrs

 

£35