Rebel Dykes (18)

Mae cymysgedd meddwol o animeiddiad, darnau ffilm archif a chyfweliadau yn adrodd hanes sîn diwylliant radical ôl pync dyke yn y DU: sgwatwyr, clybiau nos BDSM, ralïau gwrth-Thatcher, protestiadau yn mynnu gweithredu ynghylch AIDS a chlymau cadarn y teulu a ddewiswyd. Mae Rebel Dykes yn un o'r ffilmiau mwyaf hwyliog a llawn cyffro y byddwch yn ei gweld eleni. Mae’n dilyn grŵp o ffrindiau agos a gyfarfu yng ngwersyll heddwch Comin Greenham yn yr 1980au ac a aeth ymlaen i fod yn artistiaid, perfformwyr, cerddorion ac ymgyrchwyr yn Llundain. Mae’n rhoi cipolwg hynod freintiedig i fyd a fu, a chaiff yr hanes ei adrodd gan y rheiny a wnaeth amlygu eu gwleidyddiaeth gydag argyhoeddiad didwyll a byw i ddweud y stori.

£7.70 (£5.90)

** Archebu tocynnau o flaen llaw yn hanfodol. Archebu ar lein 24/7 mwldan.co.uk. Swyfddfa docynnau (ffôn yn unig) Dydd Mawrth - Dydd Sul 2-4pm 01239 621 200**