COVID- CWESTIYNNAU CYFFREDINOL

 

Cyfeiriwch at ein gofynion mynediad cyn POB ymweliad, gan y gall pethau newid yn gyflym...

 

Newidiadau yn dod i rym o 1 Gorffennaf

  • Dangosiadau gyda mesurau cadw pellter cymdeithasol ar waith - O fis Gorffennaf ymlaen, ni fydd gennym ddyddiau cyfan wedi'u neilltuo ar gyfer dangosiadau Cadw Pellter Cymdeithasol mwyach. Yn hytrach, byddwn yn hwyluso dangosiadau Cadw Pellter Cymdeithasol annibynnol o bob teitl.
  • Polisi ad-daliadau - Fe wnaethom newid ein polisi ad-daliadau dros dro i gyd-fynd â’r angen am newidiadau munud olaf a achoswyd gan COVID. O 1 Gorffennaf byddwn yn dychwelyd i’n polisi ad-daliadau blaenorol (sy’n caniatáu i’n lleoliad weithredu mewn ffordd fwy hyfyw).

 

Darllenwch y Cwestiynau Cyffredin isod i gael mwy o fanylion...

DANGOSIADAU GYDA MESURAU CADW PELLTER CYMDEITHASOL A HEB FESURAU CADW PELLTER CYMDEITHASOL AR WAITH

Byddwn yn dangos teitlau unigol gyda mesurau cadw pellter cymdeithasol ar wahanol ddyddiau’r wythnos (yn yr un modd ag yr ydym yn gwneud gyda dangosiadau gydag isdeitlau). O leiaf un dangosiad gyda mesurau cadw pellter cymdeithasol ar gyfer y rhan fwyaf o ffilmiau.

Ar y wefan, rhestrir dangosiadau gyda mesurau cadw pellter cymdeithasol ar dudalen wahanol i'r dangosiadau heb fesurau cadw pellter cymdeithasol. Gweler ein tudalen beth sydd ymlaen yn y sinema ar gyfer dangosiadau gyda mesurau cadw pellter cymdeithasol a dangosiadau heb fesurau cadw pellter cymdeithasol hefyd.

Yn ein rhaglen, edrychwch am y codio lliw.

Mae cadw pellter cymdeithasol yn golygu y byddwch yn eistedd o leiaf 2 fetr oddi wrth aelodau eraill o'r gynulleidfa.

ONI BAI Y LABELWYD YN GLIR FEL ARALL, NID OES MESURAU CADW PELLTER CYMDEITHASOL AR WAITH YN EIN DANGOSIADAU A’N DIGWYDDIADAU. Mae hyn yn berthnasol i ffilmiau, digwyddiadau byw a digwyddiadau darlledu.

ARCHEBU TOCYNNAU

Wyneb yn wyneb / ffôn: 12-8pm dydd mawrth i ddydd sul (ac ar ddydd llun gŵyl y banc / gwyliau ysgol) / 01239 621 200. Ar-lein: 24/7 / mwldan.co.uk

Bydd yr adeilad ar agor gyda swyddfa docynnau wedi’i staffio rhwng 12 canol dydd ac 8pm dydd mawrth - dydd sul (a dydd llun yn ystod gwyliau ysgol a gwyliau cyhoeddus) Gyda diodydd a byrbrydau i'w gael i archebu wrth y bar.

Ar gyfer pob digwyddiad rydym yn dal i argymell archebu tocynnau ymlaen llaw.

MESURAU DIOGELU O RAN COVID

Awyru yn yr Awditoria

Mae systemau rheoli aerdymheru gwell ar waith ym mhob un o’n awditoria gyda monitro ansawdd aer 24/7. Cyflwynir aer glân ar lefel isel a'i echdynnu ar lefel uchel ym mhob awditoriwm, gan sicrhau bod newidiadau llwyr o ran aer ym mhob awditoriwm heb ddefnyddio unrhyw aer ailgylchedig mewn unrhyw ofod.

 

Masgiau

Ar gyfer dangosiadau ble mae mesurau cadw pellter cymdeithasol ar waith, bydd ein holl staff sy'n delio â chwsmeriaid yn gwisgo masgiau

Rydym yn argymell gwisgo masgiau er eich diogelwch chi a diogelwch y rheiny o'ch cwmpas.

 

Profion i staff 

Mae ein tîm o staff yn gwneud profion yn rheolaidd.

 

Gweler ‘Dangosiadau gyda mesurau Cadw Pellter Cymdeithasol’ am fanylion y rheiny…

AD-DALIADAU, CANSLO A GOHIRIO

Polisi ad-daliadau

Fe wnaethom newid ein polisi ad-daliadau dros dro i gyd-fynd â’r angen am newidiadau munud olaf a achoswyd gan COVID. O 1 Gorffennaf byddwn yn dychwelyd i’n polisi ad-daliadau blaenorol (sy’n caniatáu i’n lleoliad weithredu mewn ffordd fwy hyfyw).

 

NI RODDIR AD-DALIADAU AR DOCYNNAU AR GYFER DIGWYDDIADAU A HYRWYDDIR AR Y CYD GAN GASTELL ABERTEIFI

 

Rwyf wedi archebu fy nhocynnau ond nid wyf yn teimlo’n dda

Er diogelwch a lles pawb, rhaid i chi beidio ag ymweld â’r mwldan os ydych chi'n teimlo'n sâl neu os ydych chi'n arddangos unrhyw un o symptomau covid 19 (tymheredd uchel, peswch newydd a/neu barhaus, colli blas neu arogl). Gweler: canllawiau llywodraeth cymru. Os ydych chi wedi profi'n bositif am covid-19 yn ystod y 14 diwrnod diwethaf neu'n aros am ganlyniadau prawf covid-19, peidiwch â mynychu. Dilynwch ganllawiau cyfredol llywodraeth cymru ynghylch hunanynysu os ydych chi wedi profi'n bositif am covid-19, wedi bod mewn cyswllt â rhywun gyda covid-19 neu'n amau fod gennych chi covid.

Beth sy’n digwydd os caiff digwyddiad rwyf wedi archebu tocynnau ar ei gyfer ei ohirio neu ei ganslo gan y mwldan?

Os oes angen symud digwyddiad i ddyddiad newydd byddwch yn cael cynnig tocynnau ar gyfer y dyddiad newydd. Os na fydd y dyddiad newydd yn addas byddwn yn cynnig ad-daliad neu gredyd llawn i chi ar ein system. Cysylltwch â'n swyddfa docynnau ar boxoffice@mwldan.co.uk

 

Mae gen i gredyd ar eich system o ymweliad blaenorol a gafodd ei ganslo – alla i ddefnyddio hwnnw?

Wrth gwrs. Nid yw credyd ar ein system yn dod i ben. Cysylltwch â'n swyddfa docynnau i archebu, neu gallwch ddefnyddio rhif eich taleb credyd i archebu ar-lein (rydyn ni hefyd yn derbyn rhan-daliadau).

BAR A CHAFFI’R MWLDAN

Mae ein bar ar agor i’r cyhoedd pryd bynnag mae’r adeilad ar agor (gweler oriau agor). Byddwn yn gweini popgorn, losin a hufen iâ yn ogystal â diodydd poeth ac oer. Gofynnwn yn garedig i chi beidio â dod â'ch bwyd a'ch diod eich hun gyda chi.

AMSERAU AGOR

Mae’r adeilad ar agor rhwng 12 canol dydd ac 8pm dydd Mawrth - dydd Sul (a dydd Llun yn ystod gwyliau ysgol ac ar wyliau cyhoeddus).

LLOGI’R SINEMA / DANGOSIADAU PREIFAT

Rydyn ni’n hapus i drafod opsiynau llogi preifat. Os ydych chi'n teimlo'n fwy cyfforddus yn mynychu dangosiad fel rhan o grŵp o ffrindiau a theulu ehangach lle rydych chi'n adnabod pawb yn y gynulleidfa, byddwn ni'n gwneud ein gorau i ddarparu ar eich cyfer chi gyda mesurau cadw pellter cymdeithasol ar waith neu hebddynt. Cysylltwch â’r swyddfa docynnau 01239 621 200 dros y ffôn neu e-bost boxoffice@mwldan.co.uk am fanylion pellach.

Adborth

Byddwch yn derbyn arolwg byr gennym trwy e-bost yn dilyn eich ymweliad. Byddai derbyn unrhyw adborth am eich ymweliad yn ein helpu’n fawr iawn i wella'r profiad ar gyfer y dyfodol.

Oes unrhyw beth nad ydym wedi’i gwmpasu yma?

Anfonwch neges atom: boxoffice@mwldan.co.uk. Rydyn ni bob amser yn hapus i helpu ac mae hyn yn dipyn o brofiad dysgu i bob un ohonom.

C