Cyrraedd yma a pharcio
Sgroliwch i lawr am fwy o wybodaeth

Sut i gyrraedd ni
Ein cyfeiriad yw:
Mwldan
Clos y Bath House
Aberteifi
Ceredigion
SA43 1JY
what3words
Defnyddiwch what3words ar gyfer lleoliadau manwl cywir trwy nodi'r cod lleoliad (gan gynnwys y dotiau) yn yr ap what3words am ddim:
Prif fynedfa'r theatr:
Trafnidiaeth a pharcio
Mae nifer o feysydd parcio sy'n cael eu rhedeg gan y Cyngor yn agos i'r Mwldan.
Nodwch fod y Meysydd Parcio hyn yn cael eu rhedeg gan Gyngor Sir Ceredigion ac nid oes gennym unrhyw reolaeth dros eu prisiau. Mae maes parcio’r Mwldan (yn union y tu ôl i brif adeilad y theatr) yn rhad ac am ddim gyda’r nos ar ôl 6yh, fodd bynnag, os ydych yn ymweld yn ystod y dydd, rydym yn argymell defnyddio Maes Parcio Greenfield, dim ond taith gerdded fer o’n prif fynedfa, sy’n cynnig prisiau parcio ychydig yn rhatach.
Gellir gwneud unrhyw gwynion am ffioedd parcio yn uniongyrchol i Gyngor Ceredigion:
01545 570881 (yn ystod oriau agor y swyddfa)
O Gastell Newydd Emlyn cymrwch yr A484 i Aberteifi. Yn y prif gylchfan wrth ddod i mewn i Aberteifi, ewch syth ymlaen tuag at ganol y dref, gyda’r ysbyty ar eich chwith. Ewch syth ymlaen ar hyd Stryd y Priordy tuag at Neuadd y Dref (gyda’r cloc). Trowch i’r dde i’r Stryd Fawr/Pendre (un ffordd) yna cymrwch y cyntaf ar y chwith (gyda siop pysgod a sglodion ar y cornel), ac yna trowch i lawr y rhiw. Mae'r Mwldan wedi ei lleoli ar waelod y rhiw ar y dde. Ar waelod y rhiw trowch i’r dde i Heol Clôs y Bath neu trowch i’r chwith i gyrraedd maes parcio Greenfield Square (sydd â pharcio rhatach yn ystod y dydd).
O Aberystwyth, wrth i chi ddod i mewn i Aberteifi parhewch ar hyd yr A487 heibio Tesco. Yn y cylchfan cyn y bont, cymrwch y 3ydd allanfa bydd yn mynd â chi i ganol y dref gyda’r ysbyty ar eich chwith. Ewch syth ymlaen ar hyd Stryd y Priordy tuag at Neuadd y Dref (gyda’r cloc). Trowch i’r dde i’r Stryd Fawr/Pendre (un ffordd) yna cymrwch y cyntaf ar y chwith (gyda siop pysgod a sglodion ar y cornel), ac yna trowch i lawr y rhiw. Mae'r Mwldan wedi ei lleoli ar waelod y rhiw ar y dde. Ar waelod y rhiw trowch i’r dde i Heol Clôs y Bath neu trowch i’r chwith i gyrraedd maes parcio Greenfield Square (sydd â pharcio rhatach yn ystod y dydd).
O Ddinbych y Pysgod cymrwch yr A478 i Aberteifi. Yn y cylchfan cyntaf cymrwch y 3ydd allanfa ac ewch dros y bont newydd. Yn y cylchfan nesaf, ar ben draw’r bont, cymrwch yr allanfa gyntaf gyda’r ysbyty ar eich chwith. Ewch syth ymlaen ar hyd Stryd y Priordy tuag at Neuadd y Dref (gyda’r cloc). Trowch i’r dde i’r Stryd Fawr/Pendre (un ffordd) yna cymrwch y cyntaf ar y chwith (gyda siop pysgod a sglodion ar y cornel), ac yna trowch i lawr y rhiw. Mae'r Mwldan wedi ei lleoli ar waelod y rhiw ar y dde. Ar waelod y rhiw trowch i’r dde i Heol Clôs y Bath neu trowch i’r chwith i gyrraedd maes parcio Greenfield Square (sydd â pharcio rhatach yn ystod y dydd).
O Hwlffordd cymrwch yr A478 i Aberteifi. Yn y cylchfan cyntaf cymrwch yr ail allanfa ac ewch dros y bont newydd. Yn y cylchfan nesaf, ar ben draw’r bont, cymrwch yr allanfa gyntaf gyda’r ysbyty ar eich chwith. Ewch syth ymlaen ar hyd Stryd y Priordy tuag at Neuadd y Dref (gyda’r cloc). Trowch i’r dde i’r Stryd Fawr/Pendre (un ffordd) yna cymrwch y cyntaf ar y chwith (gyda siop pysgod a sglodion ar y cornel), ac yna trowch i lawr y rhiw. Mae'r Mwldan wedi ei lleoli ar waelod y rhiw ar y dde. Ar waelod y rhiw trowch i’r dde i Heol Clôs y Bath neu trowch i’r chwith i gyrraedd maes parcio Greenfield Square (sydd â pharcio rhatach yn ystod y dydd).
Mae gennym ni orsaf atgyweirio/parcio beiciau gyda gwarchod 20 metr o'n mynedfa flaen:
Rydym yn bum munud o wâc o Orsaf Fysiau Finch Square. Gellir dod o hyd i amserlenni yma:
Ein gorsaf drenau agosaf yw Clunderwen (19 milltir) neu Gaerfyrddin (21 milltir).