Hygyrchedd
Rydym yn lleoliad hygyrch ac rydym yn rhan o gynllun cenedlaethol Hynt. Os oes gennych unrhyw ofynion hygyrchedd penodol ac yr hoffech drafod y rhain cyn eich ymweliad siaradwch ag aelod o'n tîm ar 01239 621 200 neu e-bostiwch boxoffice@mwldan.co.uk
Sgroliwch i lawr am fwy o wybodaeth

Hynt
Mae Hynt yn gynllun mynediad cenedlaethol sy’n gweithio gyda theatrau a chanolfannau celfyddydau yng Nghymru i wneud yn siŵr bod cynnig cyson ar gael i ymwelwyr â nam neu ofyniad mynediad penodol, a’u Gofalwyr neu Gynorthwywyr Personol.
Bydd y wefan yn dweud wrthych bopeth sydd angen i chi ei wybod am Hynt: ar gyfer pwy mae; yr hyn y mae'n ei ddarparu; a sut i ddod yn aelod. https://www.hynt.co.uk/cy/
Os oes angen cefnogaeth neu gymorth arnoch i fynychu perfformiad, efallai y byddwch yn gymwys i ymuno â Hynt. Byddwn yn hapus i esbonio’r cynllun yn llawn a’n rhan ni ynddo. Os hoffech siarad ag aelod o staff, cysylltwch â 01239 621200.
Ddangosiadau hygyrch
I ddod o hyd i fanylion ein dangosiadau hygyrch, ewch i'r dudalen Sinema a dewiswch y dangosiadau hygyrch o'ch dewis gan ddefnyddio'r ffilterau ar yr ochr chwith.

Ddangosiadau Gydag Isdeitlau
Yn addas i pobl sy’n Drwm eu Clyw
Mae dangosiadau gydag isdeitlau/capsiynau yn darparu trawsgrifiad o’rsain mewn ffilm, wedi ei arddangos ar hyd gwaelod y sgrin sinema. Ynghyd â deialog y ffilm, mae’r is-deitlau’n cynnwys sain nad yw’n ddeialog megis“(mae’n ochneidio)” neu “(drws yn gwichian)”.

Dangosiad Hamddenol
Yn addas i pobl gyda awtistiaeth, anableddau dysgu ac anrhefn wybyddol.
Mae Dangosiadau hamddenol yn ddangosiadau sydd wedi eu haddasu’ngynnil i greu amgylchedd sy’n groesawgar i bobl sydd ag ystod o gyflyraumegis awtistiaeth, anableddau dysgu ac anrhefn wybyddol.
Mae’r lefelau sain wedi eu lleihau ynddynt, y golau wedi ei adael arno ar lefelisel ac nid oes unrhyw hysbysluniau ar ddechrau’r ffilm. Gall mynychwyr ddodâ bwyd a diod eu hun i’r sinema, gallant fod yn swnllyd ac eistedd ble bynnagsydd fwyaf cysurus iddynt. Ar gyfer y dangosiadau hyn ni allwch gadwseddau penodol a fe fydd ystafell dawel ar gael cyferbyn â’r awditoriwm osoes angen i unrhyw un ei defnyddio.

Dangosiadau Sain Ddisgrifio
Yn addas i Pobl â nam ar eu golwg.
Bydd dangosiadau sain ddisgrifio yn darparu sylwebaeth leisiol sydd wedirecordio o flaen llaw sy’n disgrifio nodweddion megis y cyffro, iaith gorfforol, mynegiadau a symudiadau yn ystod y ffilm. Mae’r sylwebaeth yn ffitio o fewny seibiau tawel yn y ffilm, fel nad yw’n torri ar draws y deialog. Mae’n dracsain ar wahân caiff ei ddarlledu trwy glustffonau diwifr, a dim ond y person sy’n eu gwisgo bydd yn ei glywed. Siaradwch â’n Swyddfa Docynnau oesbydd angen clustffonau arnoch.

Dangosiadau Sain Atgyfnerthu
Yn addas i pobl sy’n Drwm eu Clyw.
Mae Sain Atgyfnerthu ar gael ar ein holl ddangosiadau sinema a’ndigwyddiadau darlledu byw.
Mae Sain Atgyfnerthu yn gyfleuster sy’n atgyfnerthu trac sain y dangosiadau sinema trwy glustffonau. Mae hyn yn gweithredu yn lle’chcymorth clyw.
Mae Sain Atgyfnerthu ar gael ar bob un o’n dangosiadau sinema - gofynnwch i’n swyddfa docynnau am glustffonau os hoffech wneud defnyddo’r gwasanaeth hwn.
Dimensiynau Seddau a Chynlluniau Eistedd
Gallwch lawrlwytho ein cynlluniau eistedd a dimensiynau seddi yma.

