CEFNOGWCH NI

Mae ‘na nifer o ffyrdd y gallwch ein cefnogi:
 

Parhewch i ddod!

Os ydych wedi cael amser braf yma, neu wedi dod i weld rhywbeth gwych, dywedwch wrth eich ffrindiau. Dyma’r ffordd fwyaf pwysig gallwch ein cefnogi. Yn sefydliad dielw, mae pob ceiniog a enillir yma yn mynd yn ôl i mewn i’r busnes, i wella ein cyfleusterau ac i ddarparu swyddi ac incwm i’n heconomi lleol. Gwnawn ein gorau glas i wneud y mwyaf o bob adnodd sydd gennym. Felly gallwch deimlo’n dda am wario arian a threulio amser yma.
 

Ymunwch â’n E-rhestr

Newidiwch o’n rhestr bostio i’n e-rhestr. Mae anfon trwy’r post yn cynyddu mewn cost, ac yn defnyddio llawer o bapur felly rydym yn ceisio lleihau’r costau hyn drwy symud pobl o’n rhestr bostio i’n e-rhestr. Gall ein swyddfa docynnau newid eich dewisiadau fel eich bod yn parhau i dderbyn eich rhaglen drwy’r post, ond gallwch dderbyn gohebiaeth ychwanegol drwy e-bost yn hytrach na gyda’r post. Gallwch deilwra eich e-danysgrifiad fel eich bod ond yn derbyn gwybodaeth am y digwyddiadau rydych am glywed amdanynt, a gallwch newid eich dewisiadau ar unrhyw adeg. Cysylltwch â’n swyddfa docynnau boxoffice@mwldan.co.uk a gallant newid eich dewisiadau, neu cliciwch yma.
 

Ymaelodwch

Mae Theatr Mwldan yn Gwmni Cyfyngedig trwy Warant - ei haelodau sy’n berchen arni ac sy’n ei rheoli ar gyfer ei haelodau. Mae aelodaeth Theatr Mwldan yn agored i unigolion sy’n 18 oed ac yn hŷn, ac i sefydliadau sy’n cefnogi amcanion y cwmni. Mae aelodaeth yn costio £2 y flwyddyn, ac mae’n eich caniatáu i bleidleisio yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, ac yn eich galluogi i gael llais yn y ffordd yr ydym yn rhedeg y cwmni. Gallech hyd yn oed ystyried fod ar ein Bwrdd o Ymddiriedolwyr llywodraethol. Cliciwch yma i archebu.
 

Gwirfoddolwch i ni

Bydd pob amser angen help arnom. Mae gwirfoddoli’n hwyl, yn gymdeithasol ac yn ffordd wych o weld digwyddiadau am ddim. Cliciwch yma am fanylion.
 

 

C