Back

Sut i Gyraedd Yma

Mae Theatr Mwldan wedi ei lleoli yng nghanol Aberteifi.

O Castell Newydd Emlyn cymrwch yr A484 i Aberteifi. Yn y prif gylchfan wrth ddod i mewn i Aberteifi, ewch syth ymlaen tuag at ganol y dref, gyda’r ysbyty ar eich chwith. Ewch syth ymlaen ar hyd Stryd y Priordy tuag at Neuadd y Dref (gyda’r cloc). Trowch i’r dde i’r Stryd Fawr/Pendre (un ffordd) yna cymrwch y cyntaf ar y chwith (gyda siop pysgod a sglodion ar y cornel), ac yna trowch i lawr y rhiw. Mae Theatr Mwldan wedi ei lleoli ar waelod y rhiw ar y dde. Ar waelod y rhiw trowch i’r dde i Heol Clôs y Bath ac yno gwelwch faes parcio hir dymor wedi ei leoli tu ôl i Theatr Mwldan.

O Aberystwyth, wrth i chi ddod i mewn i Aberteifi parhewch ar hyd yr A487 heibio Tesco. Yn y cylchfan cyn y bont, cymrwch y 3ydd allanfa bydd yn mynd â chi i ganol y dref gyda’r ysbyty ar eich chwith. Ewch syth ymlaen ar hyd Stryd y Priordy tuag at Neuadd y Dref (gyda’r cloc). Trowch i’r dde i’r Stryd Fawr/Pendre (un ffordd) yna cymrwch y cyntaf ar y chwith (gyda siop pysgod a sglodion ar y cornel), ac yna trowch i lawr y rhiw. Mae Theatr Mwldan wedi ei lleoli ar waelod y rhiw ar y dde. Ar waelod y rhiw trowch i’r dde i Heol Clôs y Bath ac yno gwelwch faes parcio hir dymor wedi ei leoli tu ôl i Theatr Mwldan.

O Ddinbych y Pysgod cymrwch yr A478 i Aberteifi. Yn y cylchfan cyntaf cymrwch y 3ydd allanfa ac ewch dros y bont newydd. Yn y cylchfan nesaf, ar ben draw’r bont, cymrwch yr allanfa gyntaf gyda’r ysbyty ar eich chwith. Ewch syth ymlaen ar hyd Stryd y Priordy tuag at Neuadd y Dref (gyda’r cloc). Trowch i’r dde i’r Stryd Fawr/Pendre (un ffordd) yna cymrwch y cyntaf ar y chwith (gyda siop pysgod a sglodion ar y cornel), ac yna trowch i lawr y rhiw. Mae Theatr Mwldan wedi ei lleoli ar waelod y rhiw ar y dde. Ar waelod y rhiw trowch i’r dde i Heol Clôs y Bath ac yno gwelwch faes parcio hir dymor wedi ei leoli tu ôl i Theatr Mwldan.

O Hwlffordd cymrwch yr A478 i Aberteifi. Yn y cylchfan cyntaf cymrwch yr ail  allanfa ac ewch dros y bont newydd. Yn y cylchfan nesaf, ar ben draw’r bont, cymrwch yr allanfa gyntaf gyda’r ysbyty ar eich chwith. Ewch syth ymlaen ar hyd Stryd y Priordy tuag at Neuadd y Dref (gyda’r cloc). Trowch i’r dde i’r Stryd Fawr/Pendre (un ffordd) yna cymrwch y cyntaf ar y chwith (gyda siop pysgod a sglodion ar y cornel), ac yna trowch i lawr y rhiw. Mae Theatr Mwldan wedi ei lleoli ar waelod y rhiw ar y dde. Ar waelod y rhiw trowch i’r dde i Heol Clôs y Bath ac yno gwelwch faes parcio hir dymor wedi ei leoli tu ôl i Theatr Mwldan.

Top
S