Avatar: The Way Of Water (12A) - Socially distanced / Mesurau cadw pellter cymdeithasol

James Cameron | USA | 2022 | 192’

Mae dilyniant hir-ddisgwyliedig Avatar: The Way of Water gan James Cameron, sy’n dangos o’r dyddiad rhyddhau cenedlaethol, yn cyrraedd y Mwldan o’r diwedd. Wedi'i gosod mwy na degawd ar ôl digwyddiadau'r ffilm gyntaf a ryddhawyd yn 2009, mae The Way of Water yn adrodd hanes y teulu Sully - Jake, Neytiri, a nawr eu plant, wrth iddyn nhw wynebu dychweliad bygythiad cyfarwydd sy'n addo gorffen yr hyn a gafodd ei ddechrau’n flaenorol. Rhaid i Jake weithio gyda Neytiri a byddin hil y Na'vi i amddiffyn eu planed, sef byd hardd Pandora. Mae'r dilyniant hwn, a gymerodd dros ddegawd i’w greu, yn cynnwys effeithiau gweledol syfrdanol ac yn gwthio ffiniau adrodd straeon unwaith eto.

Gyda Zoe Saldana, Sam Worthington, Sigourney Weaver, Jemaine Clement a Kate Winslet.

£7.70 (£5.90)

 

AVATAR: THE WAY OF WATER yn cynnwys sawl dilyniant gyda goleuadau sy'n fflachio a all effeithio ar y rheiny sy'n agored i epilepsi ffotosensitif neu sydd â ffotosensitifrwydd arall. 

Mae'r holl ffilmiau a restrir isod yn cynnwys Sain Ddisgrifio a Sain Atgyfnerthu

Browse more shows tagged with: