The Bob's Burgers Movie (PG)
Loren Bouchard / Bernard Derriman | USA | 2022 | 102’
Mae prif bibell ddŵr wedi rhwygo a chreu llyncdwll enfawr o flaen Bob's Burgers, gan flocio'r fynedfa am gyfnod amhenodol a difetha cynlluniau'r Belchers ar gyfer haf llwyddiannus. Tra bod Bob a Linda yn brwydro i gadw'r busnes i fynd, mae'r plant yn ceisio datrys dirgelwch a allai achub bwyty eu teulu. Wrth i’r peryglon gynyddu, mae’r teulu’n helpu ei gilydd i ddod o hyd i obaith wrth iddynt anelu at gymryd eu lle tu ôl y cownter unwaith yn rhagor.
£7.70 (£5.90)