Bumblebee (PG)
Travis Knight | 2018 | USA | 114’
Ar ffo ym 1987, mae Bumblebee y Transformer yn ceisio lloches mewn iard jync mewn tref fechan ar lan y môr yng Nghaliffornia. Cyn hir mae Charlie, ar fin troi’n 18 oed ac yn ceisio dod o hyd i’w ffordd yn y byd, yn darganfod Bumblebee, yn doredig ac yn greithiog. Pan mae Charlie yn ei adfywio, mae’n sylweddoli’n gyflym nid Volkswagen melyn cyffredin mohono.
£7.50 (£5.70)