Coppelia (U)
Jeff Tudor | Netherlands | Belgium | Germany | 2022 | 82’
Mae Coppelia yn ffilm deuluol arloesol, heb ddeialog, sy’n cyfuno animeiddio hudolus â dawnsio byw. Ailadroddiad modern o'r bale clasurol, gyda chast amrywiol o’r radd flaenaf. Llawfeddyg cosmetig yw Dr. Coppelius sy’n gwenwyno'r dref gyda’i gynnig am harddwch arwynebol. Yn ein hoes ni o gyfryngau cymdeithasol sy’n rhoi cymaint o bwys ar ddelwedd, mae'r neges yn glir - nid yw erioed wedi bod yn bwysicach i fod yn chi eich hun.
£7.70 (£5.90)