A MINECRAFT MOVIE (PG)

Jared Hess | USA | Sweden | 101’

Croeso i fyd Minecraft, ffilm yn seiliedig ar y gêm fideo fwyaf llwyddiannus erioed, lle mae creadigrwydd nid yn unig yn eich helpu chi i grefftio, mae'n hanfodol o ran goroesi! Mae pedwar misffit yn cael eu tynnu trwy borth dirgel i wlad ryfedd, giwbig sy'n ffynnu ar ddychymyg. I gyrraedd adref, bydd yn rhaid iddynt feistroli'r byd hwn gyda chrefftwr arbenigol annisgwyl, Steve (Jack Black). Gyda'i gilydd, bydd eu hantur yn herio'r pump i fod yn feiddgar ac i ailgysylltu â'r rhinweddau sy'n gwneud pob un ohonynt yn unigryw o ran eu creadigrwydd ... yr union sgiliau sydd eu hangen arnynt i ffynnu nôl yn y byd go iawn.

£8.40 (£7.70) (£5.90)

Caiff y ffilm hon ei dangos gydag isdeitlau ar Nos Wener 11 Ebrill @ 7.00pm

Dangosiad Hamddenol : Dydd Sadwrn 31 Mai @ 1.30pm 

Mae'r holl ffilmiau a restrir isod yn cynnwys Sain Ddisgrifio a Sain Atgyfnerthu

Rydym yn ymwybodol o drend firaol TikTok lle mae popcorn yn cael ei daflu a chynulleidfaoedd yn fod yn aflonyddgar, bydd ein staff yn monitro'r dangosiadau ac os fydd unrhyw ymddygiad yn amharu ar fwynhad i eraill, wnawn ofyn i chi adael, heb gynnig unrhyw ad-daliad.