RAVE ON FOR THE AVON (12A)
Charlotte Sawyer | UK | 2024 | 86’
O afonydd hyd a lled y DU i’n trysor lleol, Afon Teifi, nid yw’r problemau presennol ynghylch llygredd afonydd erioed wedi bod mor frys na chwaith wedi peri cymaint o bryder. Yn y ffilm dyner hon, stori Bryste am broblem Brydeinig, mae nofwyr lleol, gwyddonwyr a môr-forwyn yn ymuno ym mrwydr gymunedol i amddiffyn yr Afon Avon, yn steil Bryste.
A oes gan bobl yr hawl i natur? Mae’r cyfarwyddwr Charlotte Sawyer yn adrodd stori am gymuned o nofwyr gwyllt sydd wedi’u heffeithio gan lygredd carthion amrwd ac yn creu ffilm syfrdanol, ysgafn, yn archwilio sut mae ymgyrchu yn cychwyn ar lawr gwlad, ac yn cynnwys gwers ddwys, sy’n gyffredin i ni i gyd.
Mae’n bleser gennym groesawu’r cyfarwyddwr Charlotte Sawyer i’r dangosiad ar ddydd Sadwrn 29 Mawrth am 7pm ar gyfer sesiwn Holi ac Ateb ar ôl y dangosiad.
£8.40 (£7.70) (£5.90)