Till (12A) - Socially distanced / Mesurau cadw pellter cymdeithasol
Chinonye Chukwu | USA | 2022 | 130’
Mae Till yn ffilm hynod emosiynol a sinematig am stori wir ymgais ddi-baid Mamie Till Mobley i geisio cyfiawnder i’w mab 14 oed, Emmett Till, a gafodd ei lynsio, ym 1955, wrth ymweld â’i gefndryd yn Mississippi.
Pan mae corff Emmett yn cael ei ddychwelyd at ei fam yn Chicago, mae Mamie yn dewis cael angladd gydag arch agored er mwyn i’r byd cael gweld beth a wnaed i’w phlentyn. A dyna wnaeth miloedd o bobl, ac fe symbylodd erchylltra'r drosedd y mudiad hawliau sifil parhaus.
Yn nhaith ingol alarus Mamie, sy’n troi yn ei dro i weithredu, gwelwn bŵer cyffredinol gallu mam i newid y byd wrth iddi dyngu datgelu’r hiliaeth y tuôl i’r ymosodiad tra’n gweithio i sicrhau bod y rheiny oedd yn gyfrifol yn mynd o flaen eu gwell.
£7.70 (£5.90)