West Side Story (12A) @ CASTELL ABERTEIFI / CARDIGAN CASTLE
Hyrwyddiad ar y cyd gan Mwldan - Castell Aberteifi, gyda chefnogaeth gan Theatr y Torch
Drysau: 6.30pm
Mae’n bleser gennym fod ein tymor sinema awyr agored yn dychwelyd i’r Castell eleni. Mae gennym ddetholiad o ffilmiau rydyn ni'n meddwl y byddwch chi’n eu mwynhau’n fawr iawn yn amgylchedd hardd, llawn naws Castell Aberteifi. Nosweithiau o haf i’w cofio...
Mae’r ail-ddychmygu hwn gan Steven Spielberg o’r clasur cerddorol, West Side Story, wedi bod yn achosi cryn gyffro, ac mae ei rhyddhau yn deyrnged deilwng i’r diweddar Stephen Sondheim (a ysgrifennodd y geiriau i’r ddrama lwyfan wreiddiol ym 1957). Y canlyniad yw buddugoliaeth syfrdanol yn weledol: traciau cerddorol adnabyddus a choreograffi sy'n ffrwydro oddi ar y sgrin; mae gwylio’r ffilm hon yn hanfodol ar gyfer y rheiny sy’n hoff o theatr gerdd a Spielberg fel ei gilydd.
Oedolion- £10 o flaen llaw, £12 ar y dydd
Plentyn - £8 o flaen llaw, £10 ar y dydd