ELLIE YOUNG: CHANGING FACES
20 IONAWR- 4 MARCH
Mae Ellie Young yn creu portreadau, sy’n anelu at ddangos sut mae pobl yn edrych ar ennyd benodol, ar ganol symudiad neu fynegiant gwib o feddwl neu deimlad. Caiff ei gwaith ei ysbrydoli gan ffilm neu ddelweddaeth o’r rhyngrwyd, yn ogystal â chyfarfodydd bywyd go iawn. Mae’n archwilio cyfres thematig gan bwysleisio’r chwarae rhwng statws ffuglennol ei deunydd ffynhonnell, yr ymgais i ddarlunio a realiti'r eitem baentiedig.
Mae ei gwaith yn arsylwi agosatrwydd ac ymddiriedaeth mewn modd sensitif, ond hefyd y cuddio a’r dieithrio sy’n gysylltiedig mewn portreadu’r person sy’n eistedd, gan dynnu ar y weithred o gynrychioli sy’n cynnwys elfen gyson o dwyll.
AM DDIM