Jonas Kaufmann My Vienna

SIOE WEDI EI CHANSLO 

Mae'n ddrwg gennym eich hysbysu bod sioe Jonas Kaufmann: My Vienna ar 1 Medi wedi ei chanslo. Bydd ein Swyddfa docynnau yn cysylltu â chi gan ebost os ydych eisoes wedi prynu tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn. *Cliciwch yma i weld ein Cwestiynau Cyffredin ynghylch ad-daliadau, credyd neu symud eich bwciad i'r dyddiad newydd: http://www.mwldan.co.uk/covid-19-statement-theatr-mwldan 

Mae Jonas Kaufmann: My Vienna yn deyrnged bersonol iawn gan y tenor i'r alawon byd-enwog o fan geni walts ac opereta. Wedi’i ffilmio’n fyw yn lleoliad hudolus y Wiener Konzerthaus, mae’r cyngerdd yn cynnwys cerddoriaeth Fiennaidd boblogaidd o Die Fledermaus a Wienerblut gan Johann Strauss a The Merry Widow gan Franz Lehár, ynghyd â llawer o’r caneuon clasurol a ysbrydolwyd gan ddinas Fienna. Mae Jonas Kaufmann yn perfformio gyda cherddorfa Ffilharmonia Prague o dan faton y Maestro Jochen Rieder ac mae'r soprano o fri rhyngwladol Rachel Willis-Sørensen yn ymuno ag ef.

Approximate running time: 90 minutes

£13 (£12)

Browse more shows tagged with: