Met Opera: Manon (Massenet)

LIVE BROADCAST

Mae cynhyrchiad cyfareddol Laurent Pelly, sy’n serennu Lisette Oropesa y soprano fywiogol yn y brif ran afieithus, yn archwilio’r canlyniadau dinistriol pan mae gormodedd ac angerdd yn gwrthdaro. Maurizio Benini sy’n arwain sgôr nwydus Massenet gyda’r tenor Michael Fabiano yn chwarae rhan Chevalier des Grieux, sydd wedi gwirioni’n llwyr. Ei gariad taer tuag at Manon sy’n arwain at ddistryw'r cariadon anffodus hyn.

 

Bydd Idris Rees y cerddor proffesiynol, athro ac edmygwr opera yn ail-ddechrau’r sesiynau sgwrsio cyn y sioe ar gyfer y tymhorau Opera newydd ac mae ganddo hyn i’w ddweud am yr hyn sydd i ddod….

"Stori serch yw Manon ond stori serch drasig iawn wrth i Manon gefnu ar ei chariad er mwyn cael bywyd moethus gyda dyn henach sy’n gyfoethog iawn, yn y pen draw mae ei bywyd moethus yn arwain at ei marwolaeth gynnar o’r ddarfodedigaeth."

Sgyrsiau cyn y sioe yn yr oriel gelf 5.25yh

£16 (£15)

Browse more shows tagged with: