NT Live: INTER ALIA (15 As Live)
Rosamund Pike (Gone Girl, Saltburn) a enwebwyd ar gyfer Oscar yw Jessica yn y ddrama nesaf y bu disgwyl mawr amdani gan y tîm a oedd yn gyfrifol am Prima Facie. Barnwr craff yn Llys y Goron sydd ar frig ei gyrfa yw Jessica Parks. Y tu ôl i'r wisg, mae hi'n dwlu ar karaoke, yn wraig gariadus ac yn rhiant cefnogol. Pan mae digwyddiad yn bygwth troi ei bywyd wyneb i waered, a all hi ddal ei theulu at ei gilydd? Mae’r awdur Suzie Miller a’r cyfarwyddwr Justin Martin yn aduno yn dilyn eu ffenomen fyd-eang Prima Facie, gyda’r archwiliad treiddgar hwn o famolaeth a gwrywdod modern.
£16 (£15)
Bydd y sioe ar 4 Medi yn cael ei ffrydio’n fyw o The Lyttelton Theatre, Llundain.
Mae’r sioeau ddilynol ar y 18, 20, 25, 27 Medi yn recordiadau.