NT Live: A Midsummer Night’s Dream (12A)

by William Shakespeare

‘The course of true love never did run smooth.’

Mae Brenin a Brenhines tylwyth teg cwerylgar y fforest yn dod ar draws pedwar cariad sydd ar ffo a chriw o actorion yn ceisio ymarfer drama. Wrth i’w hanghytundeb gynyddu, mae’r pâr brenhinol hudol yn ymyrryd ym mywydau dynion gan arwain at drionglau cariad, camgymryd hunaniaeth a thrawsnewidiadau...gyda chanlyniadau hynod ddoniol, ond bygythiol.

Caiff comedi fwyaf ramantaidd Shakespeare ei ffilmio’n fyw o’r Bridge Theatre yn Llundain. Gwendoline Christie (Game of Thrones), Oliver Chris (Green Wing, NT Live: Young Marx), David Moorst (NT Live: Allelujah!) a Hammed Animashaun (The Barber Shop Chronicles) sy’n arwain y cast fel Titania, Oberon, Puck a Bottom.

Wedi ei gyfarwyddo gan Nicholas Hytner, bydd y cynhyrchiad hwn o A Midsummer Night’s Dream yn adeiladu ar lwyddiant ei lwyfaniad ymdrochol o Julius Caesar (NT Live 2018).

£12.50 (£11.50)

Browse more shows tagged with: