NT Live: A Streetcar Named Desire (15)
Gillian Anderson (Sex Education), Vanessa Kirby (The Crown), a Ben Foster (Lone Survivor) sy’n arwain y cast yng nghampwaith bythol Tennessee Williams, sy’n dod yn ôl i sinemâu. Wrth i fyd bregus Blanche chwalu, mae’n troi at ei chwaer Stella am gysur – ond mae ei dirywiad yn dod â hi wyneb yn wyneb â Stanley Kowalski sy’n greulon ac anfaddeugar. Gan y cyfarwyddwr gweledigaethol Benedict Andrews, cafodd y cynhyrchiad clodwiw hwn ei ffilmio’n fyw yn ystod rhediad a werthodd bob tocyn yn Theatr Young Vic yn 2014.
£16 (£15)
Mae hwn yn recordiad o berfformiad byw.