ROH: Don Pasquale

Mae Bryn Terfel, ffefryn gan y Royal Opera yn arwain y cast ar gyfer y cynhyrchiad newydd hwn o gomedi Donizetti am ddrama ddomestig ar draws dwy genhedlaeth. Mae stori ffraeth dyn canol oed, a’i wraig sydd â phwrpas rhamantaidd dirgel ei hun mewn golwg - wedi plesio a syfrdanu cynulleidfaoedd ers tro gyda disgleirdeb ei cherddoriaeth a dawn benigamp ei pherfformwyr. Mae cynhyrchiad gwefreiddiol Damiano Michieletto yn dangos pa mor gyfoes mae’r cymeriadau a pha mor uniongyrchol a theimladwy mae’r stori’n dal i fod.

 

Bydd Idris Rees y cerddor proffesiynol, athro ac edmygwr opera yn ail-ddechrau’r sesiynau sgwrsio cyn y sioe ar gyfer y tymhorau Opera newydd ac mae ganddo hyn i’w ddweud am yr hyn sydd i ddod….

"Ar ôl "Manon" mae “Don Pasquale” yn darparu rhyddhad ysgafn sydd mawr ei angen. Opera buffa, opera ddigrif, yn dilyn traddodiadau Commedia del Arte Eidalaidd - opera stryd yr oedd yn boblogaidd gan y bobl gyffredin, ond bellach wedi'i hysgrifennu ar gyfer y tŷ opera. Mae rhan y Don ei hun, sef ffŵl y darn, yn cael ei chanu gan neb llai na Bryn Terfel ei hun - nid yr arwr yn y stori hon ond yr hen ddyn gwirion sy’n cael ei dwyllo gan y ddau gariad ifanc. [Cariad eto]"

"Os nad ydych chi wedi bod i opera erioed o'r blaen yn eich bywyd yna dewch i weld “Don Pasquale”. Peidiwch â gadael i’ teitl dieithr eich rhwystro, mae'n golygu Mr Pasquale, gallai fod yn arglwydd ond yng nghyd-destun yr opera hon nid yw o bwys. Mae cysylltiad agos iawn rhwng y stori, yr opera, â Punch a Judy a gan ddibynnu ar y cynhyrchiad, mae digonedd o gyfleoedd am ychydig o slapstic ynddo. Dewch hanner awr yn gynnar a chael sgwrs gyda mi. Byddwch yn mwynhau."

Sgyrsiau cyn y sioe yn yr oriel gelf 7yh.

 

Running time: approx. 2hrs 30mins

£16 (£15)

Browse more shows tagged with: