ROH: Fidelio

Mae unig opera Beethoven yn gampwaith, stori ddyrchafol am risg a goruchafiaeth. Yn y cynhyrchiad newydd hwn, dan arweiniad Antonio Pappano, mae Jonas Kaufmann yn chwarae rhan y carcharor gwleidyddol Florestan, a Lise Davidsen yn chwarae rhan ei wraig Leonore (wedi ei dieithrio fel ‘Fidelio’) sy’n mynd ati i fentro ei achub. Mewn gwrthgyferbyniaeth gref, mae yna gynhwysion dirgelwch domestig, cariad na ellir ei atal a chreulondeb cyfundrefn ormesol. Mae’r gerddoriaeth yn rhagorol o’r dechrau hyd ei ddiwedd ac mae llwyfannu newydd Tobias Kratzer yn dod ynghyd â realiti tywyll ‘Arswyd’ y Chwyldro Ffrengig a’r oes sydd ohoni i amlygu neges ysbrydoledig Fidelio o ddynoliaeth a rennir.

£16 (£15)

Cenir yn Almaeneg gydag uwchdeitlau Saesneg

Browse more shows tagged with: