Royal Ballet & Opera: Giselle (PG As Live)
Mae'r ferch werinol Giselle wedi syrthio mewn cariad ag Albrecht. Pan mae hi'n darganfod mai gŵr bonheddig a addawyd i rywun arall ydyw mewn gwirionedd, mae hi'n lladd ei hun mewn anobaith. Mae ei hysbryd yn ymuno â'r Wilis: ysbrydion dialgar menywod sy'n benderfynol o ladd unrhyw ddyn maen nhw’n cwrdd. Ac yntau wedi’i boenydio gan euogrwydd, mae Albrecht yn ymweld â bedd Giselle, lle mae'n rhaid iddo wynebu'r Wilis - ac ysbryd Giselle. Mae cynhyrchiad 1985 Peter Wright o'r bale Rhamantaidd nodweddiadol hwn yn glasur yn repertoire y Royal Ballet. Wedi'i osod i sgôr atgofus Adolphe Adam a gyda dyluniadau llawn naws gan John Macfarlane, mae Giselle yn dwyn i gof y byd daearol a'r byd arallfydol mewn stori o gariad, brad ac achubiaeth.
Bydd y sioe ar 3 Mawrth yn cael ei ffrydio’n fyw.
Mae’r sioe ddilynol ar y 8 Mawrth yn recordiad.
£18 (£17)