Royal Ballet & Opera: Tosca (12A As Live)

Yn Rhufain wedi’i difetha gan ryfel, mae Floria Tosca a Mario Cavaradossi yn gwirioni ar ei gilydd ac yn dwlu ar eu celf. Ond pan mae Cavaradossi yn helpu carcharor sydd wedi dianc, mae’r cariadon yn gwneud gelyn marwol, sef y Barwn Scarpia, Prif Swyddog yr Heddlu. Ar drugaredd chwantau gwyrdroëdig Scarpia, mae Tosca’n cael ei gorfodi i wneud bargen ofnadwy: cysgu gyda’r dyn mae hi’n ei gasáu er mwyn achub y dyn mae hi’n ei garu. A all hi ddod o hyd i ffordd allan? 

Mae cast llawn sêr yn cynnwys y soprano Anna Netrebko yn perfformio rôl Tosca, y tenor Freddie De Tommaso fel Cavaradossi, a’r bas-bariton Gerald Finley fel Scarpia, gyda Chyfarwyddwr Cerdd y Royal Opera, Jakub Hrůša yn arwain ei gynhyrchiad newydd cyntaf yn y rôl. Rhufain fodern, amgen, yw’r cefndir ar gyfer cynhyrchiad newydd cyffrous Oliver Mears o ddrama gyffro Puccini ni ddylech ei golli.

Bydd y sioe ar 1af Hydref yn cael ei ffrydio’n fyw o The Royal Opera House, Llundain.

Mae’r sioe dilynol ar y 5fed Hydref yn recordiad.

£18 (£17)