Abbey Shakespeare Players: Richard II

Mewn teyrnas ranedig, pwy sydd â’r hawl i lywodraethu?

Yn fyrbwyll, mae’r Brenin Richard yn anfon ei gefnder Henry Bolingbroke i alltudiaeth, ac yn taflu cenedl i helbul. Wrth i Bolingbroke ddychwelyd i hawlio’r orsedd dros ei hun ac i ailuno ei wlad, cychwynna ymryson am bŵer ac am deyrngarwch.

Mae sioe gelfydd Shakespeare yn cynnig archwiliad amserol i ddyrchafiad a chwymp pŵer.

‘Not all the water in the rough rude sea

Can wash the balm from an anointed king.’

Gyda cherddoriaeth fyw syfrdanol yn gyfeiliant, ac wedi ei chyflwyno mewn amgylchoedd hudol Abaty Llandudoch, mae’n bleser gan The Abbey Shakespeare Players gyflwyno Richard II am y tro cyntaf yn ein hanes drideg mlynedd.

£10 (£8)
Mae'r digwyddiad hwn yn cymryd lle yn Abaty Llandudoch.
Bydd tocynnau hefyd ar gael wrth y drws.
Mae hwn yn gynhyrchiad awyr agored felly gwisgwch yn gynnes. Os bydd yn bwrw’n drwm byddwn yn perfformio mewn lleoliad dan do.

Browse more shows tagged with: