Catrin Aur, Côrdydd a’u ffrindiau / and Friends

DIGWYDDIAD YN CYMRYD LLE YNG NGHASTELL ABERTEIFI

Noson o ganu gyda’r soprano glodfawr Gymreig o Beulah ac un o’r corau cymysg mwyaf poblogaidd yng Nghymru. Sefydlwyd Côrdydd, a arweinir gan Huw Foulkes, yn 2000 gan grŵp o ffrindiau yng Nghaerdydd. Maent wedi ennill yn yr Eisteddfod Genedlaethol 11 gwaith ac wedi derbyn y teitl Côr yr Wyl 5 gwaith ac wedi mwynhau llwyddiant yng nghystadleuaeth Côr Cymru, Eisteddfod Llangollen a Gŵyl Fawr Aberteifi. Mae Catrin wedi perfformio ar draws y byd ac wedi ei chastio mewn gwahanol rolau gydag operâu arweiniol. Mae ei repertoire oratorio helaeth yn cynnwys Requiem Verdi a Creation Haydn.

 

GWYBODAETH HANFODOL

Darperir seddau yn y digwyddiad hwn ar sail y cyntaf i’r felin.

Bydd mynediad ar gyfer pob un o’r digwyddiadau hyn trwy brif fynedfa’r castell. Bydd y drysau’n agor awr cyn i’r digwyddiad cyntaf gychwyn.

Nodir os gwelwch yn dda fod ‘na fynediad cadair olwyn i’r safle perfformio, ond nid oes unrhyw barcio cyhoeddus ar y safle.

Darperir man eistedd i gwsmeriaid â ganddynt symudedd cyfyngedig - cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau 01239 621 200 am fanylion os oes angen hyn arnoch.

Mae hwn yn ddigwyddiad awyr agored (nid yw o dan do), felly gwisgwch yn gynnes a gwisgwch esgidiau addas.

Nodwch os gwelwch yn dda - yn y digwyddiad hwn caniateir bwyd a diod caiff ei brynu yn y castell yn unig. Bydd bar a bwyd ar gael ar y dydd.

Theatr Mwldan yw’r unig fan lle cewch brynu tocynnau ar gyfer y digwyddiadau hyn.

Gellir prynu tocynnau wrth y drws, ond mae hyn yn hollol ddibynnol ar argaeledd. Argymhellwn archebu tocynnau o flaen llaw i osgoi cael eich siomi.

Gallwch ffonio 01239 615131 am wybodaeth bellach am y Castell.

 

GWYBODAETH TOCYNNAU

 

Caiff eich tocyn ei sganio wrth y fynedfa ar gyfer y digwyddiadau hyn:

 

• Derbyniwn docynnau go iawn (os wnaethoch brynu tocynnau mewn person o’r Mwldan)

• Gallwn sganio eich archeb ar eich ffôn symudol

• Gallwch ddod â’ch tocyn ‘printio gartref’ (PWYSIG – sicrhewch pan fyddwch yn printio eich tocynnau eich bod yn defnyddio’r ddolen ‘Click Here To Print Your Tickets’ sy’n cynnwys y codau QR, ac NID y ‘crynodeb tudalen’)

• Gallwch gasglu eich tocyn ar y noson

 

Bydd gan bob tocyn ar gyfer y digwyddiadau hyn god QR (fel cod bar) sy’n unigryw i’r unigolyn, a gellir ond ei ddefnyddio unwaith. Sicrhewch eich bod yn gofalu am eich tocyn(nau) argraffu gartref fel unrhyw docyn arall. Mae gan bob tocyn cod QR unigryw y caiff ei sganio wrth y fynedfa i’r digwyddiad. Os gwneir copïau o’r tocyn, dim ond y tocyn a ddefnyddir ar gyfer y sgan cyntaf o’r cod bar caiff fynediad. Os ydyw’r cod bar unigryw eisoes wedi ei sganio, tynnir sylw’r gwasanaethydd a ni chaniateir mynediad.

£16

Browse more shows tagged with: