Catrin Finch and Cimarrón

Carlos Cuco Rojas 1954 - 2020

Ddatganiad oddi wrth Theatr Mwldan.

 

Cyfle prin i weld cydweithrediad byd-eang gwefreiddiol. Yn ôl yn 2007, cyfarfu’r delynores Gymreig Catrin Finch â Cimarrón y band joropo o Golombia  a chychwyn ar daith gyffrous o Gymru, cydweithrediad a ailadroddwyd yn 2009 a 2010. Deng mlynedd yn ddiweddarach, mae Catrin a Cimarrón yn cwrdd eto i deithio’r DU.

Mae Catrin Finch yn un o delynorion arweiniol y byd, y mae ei gyrfa wedi cynnwys perfformiadau unigol gyda cherddorfeydd blaenaf y byd, a chydweithrediadau gyda rhai o’r artistiaid cerddoriaeth byd gorau, gan gynnwys Toumani Diabate a Seckou Keita y chwaraewr kora o Senegal.

Mae Cimarrón, grwp 6 darn a enwebir am Grammy yn perfformio cerddoriaeth ddawns joropo o wastatiroedd magu gwartheg yr Orinoco, yn wreiddiedig yn ddwfn mewn traddodiad a ddiffinnir gan etifeddiaeth gymysg mestizo o Affrica, Sbaen a diwylliannau brodorol. Wedi ei arwain gan y telynor a’r cyfansoddwr Carlos Rojas, mae Cimarrón yn creu cerddoriaeth wyllt, anystywallt sy’n cynnal yr ysbryd rhyddid sydd i’w ganfod yn un o ardaloedd mwyaf naturiol y byd. Yn sionc ac yn rymus, dyma i chi gerddoriaeth sydd â chanu angerddol, dawnsio stomp rhyfeddol a meistrolaeth offerynnol danbaid y llinynnau ac offerynnau taro.

CYNHYRCHIAD THEATR MWLDAN

£18 (£17)

Their female dancer, in a gorgeous dress from some 19th century ballroom, swirls in a deadly-looking courting ritual round a stamping male, and a sensual past breathes again
The Independent on Cimarron at WOMAD 2009

Browse more shows tagged with: