Catrin Finch and Cimarrón 2023

YM CYMRYD LLE YNG NGHASTELL ABERTEIFI

HYRWYDDIR AR Y CYD GAN THEATR MWLDAN A CASTELL ABERTEIFI

Drysau 6.30pm

Cerddoriaeth o 7.30pm

 

Gan ddathlu 16eg flwyddyn eu cydweithrediad, mae Catrin Finch a Cimarrón yn cyfarfod eto i deithio’r DU yn ystod haf 2023; cydweithrediad byd-eang gwefreiddiol rhwng dau o fawrion y byd cerddorol.

Mae Catrin Finch yn un o delynorion arweiniol y byd, y mae ei gyrfa wedi cynnwys perfformiadau unigol gyda cherddorfeydd blaenaf y byd, a chydweithrediadau gyda rhai o’r artistiaid cerddoriaeth byd gorau, gan gynnwys Toumani Diabate a Seckou Keita y chwaraewr kora o Senegal.

Mae Cimarrón, grwp 6 darn a enwebir am Grammy yn perfformio cerddoriaeth ddawns joropo o wastatiroedd magu gwartheg yr Orinoco, yn wreiddiedig yn ddwfn mewn traddodiad a ddiffinnir gan etifeddiaeth gymysg mestizo o Affrica, Sbaen a diwylliannau brodorol. Mae Cimarrón yn creu cerddoriaeth wyllt, anystywallt sy’n cynnal yr ysbryd rhyddid sydd i’w ganfod yn un o ardaloedd mwyaf naturiol y byd. Yn sionc ac yn rymus, dyma i chi gerddoriaeth sydd â chanu angerddol, dawnsio stomp rhyfeddol a meistrolaeth offerynnol danbaid y llinynnau ac offerynnau taro.

CYNHYRCHIAD THEATR MWLDAN

 

£22.50

Reinventing traditional sounds is what has distingusihed Cimarrón on international stages
FORBES
Youthfulness and amazing virtuosity
BBC
With one touch of the strings she pulverised the stereotype of harpists as pretty, angelic strummers....
NEW YORK TIMES ON CATRIN FINCH