Cwmni Theatr Arad Goch: Twm Siôn Cati

Gan / By Jeremy Turner

Pan fo’r nos yn hir a’r gwynt yn rhuo, a’r coed yn plygu a’u dail yn chwyrlïo, ar hyd ambell i lôn diarffordd yng Nghymru, os wnewch chi wrando yn ddigon astud mae sŵn adlais carnau ceffyl i’w clywed....sŵn y lleidr pen ffordd enwog Twm Siôn Cati. 

Yn y cynhyrchiad llwyddiannus hwn mae cyfle i chi brofi bywyd Twmyn fyw ar lwyfan trwy storïa, canu ac ymladd. Gyda’r Eisteddfod Genedlaethol yn dod i Dregaron yn yr haf, pa well amser i glywed hanes un o gymeriadau mwyaf eiconig yr ardal! Cewch fynd ar daith gyffrous yn ôl i’r unfed ganrif ar bymtheg i briffyrdd llawn lladron a pheryglon, pan oedd Twm yn ymladd anghyfiawnder gyda triciau doniol a champau drygionus. Dewch i ddathlu bywyd yr arwr gwerinol llawn sbort yma gyda awr o theatr hwyliog gan un o gwmnïau theatr mwyaf blaenllaw Cymru. 

I blant 7+ a’u teuluoedd

£7

Browse more shows tagged with: