Dreadzone with support / gyda Chefnogaeth gan Mr Phormula

  YN CYMRYD LLE YNG NGHASTELL ABERTEIFI   GYDA CHEFNOGAETH GAN MR PHORMULA  

DRYSAU: 18:30

CERDDORIAETH O: 19:45

Un o’r bandiau byw mwyaf egnïol, cyffrous a grymus i ymddangos o’r sîn ôl-rave. Ers cychwyn y band ym 1993 bu Dreadzone yn rhyddhau albymau’n raddol sy’n puro ac yn perffeithio ei fersiwn unigryw a digyffelyb ar dub - wedi ei gymysgu ag elfennau o ddawns, riffiau gitâr rhagorol, roots gwerin ac arddulliau o bas breakbeat - gan ddod â pharti i bob clwb, neuadd a chae maent wedi perfformio ynddo.   O Gymru, mae Mr Phormula yn un o arloeswyr y sîn beat-bocsio yn y DU.     www.dreadzone.com     @dreadzonemusic        www.mrphormula.com      @MrPhormula 

 

GWYBODAETH HANFOFOL

Ni ddarperir unrhyw seddau yn y digwyddiad hwn, fodd bynnag bydd croeso i chi ddod â’ch seddau gwersylla chi eich hun. DS – cedwir yr ardal yn syth o flaen y llwyfan yn glir ar gyfer dawnsio.

Nodir os gwelwch yn dda fod ‘na fynediad cadair olwyn i’r safle perfformio, ond nid oes unrhyw barcio cyhoeddus ar y safle.

Bydd mynediad ar gyfer pob un o’r digwyddiadau hyn trwy brif fynedfa’r castell.

Bydd y brif act yn gorffen erbyn 11yh.

Darperir man eistedd i gwsmeriaid â ganddynt symudedd cyfyngedig - cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau 01239 621 200 am fanylion os oes angen hyn arnoch.

Digwyddiad awyr agored yw hwn yn y bôn.

Dewch â dillad cynnes a gwisgwch esgidiau addas.

Nodwch os gwelwch yn dda - yn y digwydded hwn caniateir bwyd a diod caiff ei brynu yn y castell yn unig. Bydd bar a bwyd ar gael ar y noson.

Theatr Mwldan yw’r unig fan lle cewch brynu tocynnau ar gyfer y digwyddiadau hyn.

Yn amodol ar argaeledd, cewch hefyd brynu tocynnau wrth y drws. Argymhellwn brynu tocynnau o flaen llaw i osgoi cael eich siomi.

Ni fydd unrhyw ad-daliad am ddigwyddiadau yn y Castell. Cynhelir digwyddiadau ym mhob tywydd gan eithrio’r tywydd MWYAF garw. 

Gallwch ffonio 01239 615131 am wybodaeth bellach am y Castell.

GWYBODAETH TOCYNNAU 

Caiff eich tocyn ei sganio wrth y fynedfa ar gyfer y digwyddiadau hyn:

• Derbyniwn docynnau go iawn (os wnaethoch brynu tocynnau mewn person o’r Mwldan)

• Gallwn sganio eich archeb ar eich ffôn symudol

• Gallwch ddod â’ch tocyn ‘printio gartref’ (PWYSIG – sicrhewch pan fyddwch yn printio eich tocynnau eich bod yn defnyddio’r ddolen ‘Click Here To Print Your Tickets’ sy’n cynnwys y codau QR, ac NID y ‘crynodeb tudalen’)

• Gallwch gasglu eich tocyn ar y noson

Bydd gan bob tocyn ar gyfer y digwyddiadau hyn god QR (fel cod bar) sy’n unigryw i’r unigolyn, a gellir ond ei ddefnyddio unwaith. Sicrhewch eich bod yn gofalu am eich tocyn(nau) argraffu gartref fel unrhyw docyn arall. Mae gan bob tocyn cod QR unigryw y caiff ei sganio wrth y fynedfa i’r digwyddiad. Os gwneir copïau o’r tocyn, dim ond y tocyn a ddefnyddir ar gyfer y sgan cyntaf o’r cod bar caiff fynediad. Os ydyw’r cod bar unigryw eisoes wedi ei sganio, tynnir sylw’r gwasanaethydd a ni chaniateir mynediad.

 

£17.50

Browse more shows tagged with: