Exploring The Relationship Between Welsh Farming & Nature

Archwilio'r Berthynas Rhwng Ffermio Ayng Nghymru A Byd Natur

Yn llyfr Carwyn Graves, Tir: The Story of the Welsh Landscape, mae’n ein helpu i ddatod y ffordd y mae iaith, diwylliant a defnydd tir wedi’u cysylltu’n annatod yng Nghymru, a’r dylanwad mae hynny’n siŵr o gael ar sgyrsiau cyfoes. Mae’n dadlau bod bodau dynol wedi llunio tirwedd Cymru ers miloedd o flynyddoedd, a bod byd natur wedi ffynnu ochr yn ochr â ffermio, yn rheoli a rhyngweithio â’r tir a’i fywyd gwyllt; mai dim ond ers arferion ffermio diwydiannol yn ail hanner yr 20fed ganrif yr effeithiwyd yn enbyd ar natur. Mae'n cyflwyno hyn mewn gwrthwynebiad i syniadau o ail-wylltio sy'n ceisio tynnu bodau dynol o'r darlun yn gyfan gwbl. Bydd yn trafod y syniadau hyn gyda Jessica McQuade (Rheolwr Wholescape WWF), gan ddatgelu’r hyn y gallwn ei ddysgu o’r gorffennol i helpu diogelu’r dyfodol.

Cynhelir y sgwrs hon yn Saesneg.

Cynhelir y digwyddiad hwn yn ardal oriel y Mwldan. Ceir meinciau eistedd yn y gofod hwn, gyda rhai cadeiriau â chefnau.Nid ydym yn cadw seddau ar gyfer y digwyddiadau hyn, felly rydym yn eich cynghori i gyrraedd yn gynnar os oes angen sedd gyda chefnarnoch.

Os oes gennych unrhyw broblemau hygyrchedd, cysylltwch â'n swyddfa docynnau (01239 621 200 /boxoffice@mwldan.co.uk).

£5

 


Dydd Sadwrn 1 Chwefror - Brwydro dros Dir Cymru
Carwyn Graves yn sgwrsio ag Alun Elidyr
 
Cynhelir y sgwrs nesaf yn y gyfres hon rhwng Carwyn Graves ac Alun Elidyr.
Bydd y sgwrs hon yn Gymraeg yn unig.
Awdur yw Carwyn Graves, a bydd yn trafod materion yn ymwneud â’i lyfr diweddaraf Tir: The Story of Welsh Landscape. Mae Alun Elidyr yn cyflwyno'r rhaglen Ffermio ar S4C.

Browse more shows tagged with: