Filkin's Drift

Mae Filkin’s Drift yn ail-ddychmygu alawon traddodiadol trwy grŵfs pizzicato, gwaith gitâr cywrain, a gwaith byrfyfyr. Roedd eu taith yn 2023 ar hyd Llwybr Arfordir Cymru,a ganmolwyd gan Cerys Matthews o BBC 6 Music fel un “ymroddgar a hynodddiddorol”, yn golygu cerdded 870 milltir a pherfformio 53 gig mewn 58 diwrnod. Mae eu halbwm cyntaf, Glan, yn cynnwys alawon a gasglwyd ar hyd y daith, cyfansoddiadau newydd a ysbrydolwyd gan y tirluniau, a cherddoriaeth odraddodiadau eu cartref. Mae’r albwm, sydd wedi’i recordio’n fyw yn y Fenni, ynarddangos sain arloesol y ddeuawd. Yn cynnwys Seth Bye (ffidl) a Chris Roberts (gitâr, llais) mae Filkin’s Drift yn adnabyddus am eu perfformiadau cyfareddol, ac mae eu gwaith wedi cael ei chwarae ar BBC2, BBC3 a BBC 6 Music.

£12

Committed and fascinating
Cerys Matthews, BBC 6 Music
Hugely entertaining
Rock'n'Reel Magazine
Weaving together a tapestry of shared experiences
Songlines
Utterly mesmerizing
Bristol 24/7
Gorgeous close vocal harmonies
Folk Radio UK

Browse more shows tagged with: