Hejira: Celebrating Joni Mitchell
Ers iddynt ffurfio ychydig dros ddwy flynedd yn ôl, mae'r band wedi mynd o nerth i nerth, gyda sioeau’n gwerthu allan, y gynulleidfa ar ei thraed mewn cymeradwyaeth, cyfanswm o dros 150K o ymweliadau â’u sianel YouTube a mwy na 700 o sylwadau brwdfrydig ac adolygiadau gan y gynulleidfa.
Dathlu Joni Mitchell: mae’r band 7 aelod ‘Hejira’ yn perfformio gweithiau mwyaf y gantores-gyfansoddwraig hynod ddawnus. Gyda’r gantores/gitarydd rhagorol Hattie Whitehead, mae’r band hwn yn cyfleu barddoniaeth, angerdd a harddwch campweithiau Mitchell i’r dim. Yn dilyn rhyddhau'r albymau 'The Hissing of Summer Lawns', 'Hejira', 'Don Juan's Reckless Daughter' a 'Mingus' ar ddiwedd y 1970au (sy'n cael ei ystyried fel ei 'chyfnod jazz'), teithiodd Joni am gyfnod byr gyda band a ffurfiwyd o blith y crème de la crème o gerddorion jazz cyfoes (Metheny, Mays, Brecker, Pastorius ac Alias). Recordiwyd y daith, gan arwain at gynhyrchu’r albwm byw rhagorol, ‘Shadows And Light’; o'r albwm hwn y mae'r band Hejira yn tynnu corff ei repertoire. Disgwyliwch noson o ganeuon ‘gwych’ o ôl-gatalog Mitchell, fel ‘Amelia’, ‘Woodstock’, ‘A Case Of You’, ‘Song For Sharon’, ‘Edith And The Kingpin’ a mwy!
£23
Hattie Whitehead ~ canu a gitâr
Ollie Weston ~ sacsoffonau tenor a soprano
Chris Eldred ~ allweddellau
Pete Oxley ~ gitâr Dave Jones ~ bas
Rick Finlay ~ drymiau
Marc Cecil ~ offerynnau taro