THE ICARUS ASCENT: Ghosts of the Matterhorn


Saith dyn, saith stori, un mynydd...


Ymunwch â Mike Lewis yr awdur o Aberteifi yn lansiad ei nofel ddiweddaraf.


14 Gorffennaf, 1865: Saith dyn yn sefyll ar ben y Matterhorn, copa enwocaf y Swistir. Dan arweiniad y Sais Edward Whymper, maen
nhw wedi curo parti o gystadleuwyr o’r Eidal i gopa ‘The Impossible Mountain‘. Mae buddugoliaeth yn troi’n drychineb ar y disgyniad pan mae Douglas Hadow, aelod ifanc,amhrofiadol y parti, yn llithro ac yn llusgo‘r Parch Charles Hudson, yr Arglwydd Francis Douglas a’r tywyswr Michel croz i‘w marwolaeth.

O leiaf dyna gasgliad yr ymchwiliad swyddogol...

 

DIGWYDDIAD AM DDIM - croeso i bawb, dewch draw.

 

HYRWYDDWYD GAN MIKE LEWIS + VICTORINA PRESS

 

7:30pm - Dydd Mercher, 22 Mai

Browse more shows tagged with: