Illyria: The Emperor's New Clothes

  YN CYMRYD LLE YNG NGHASTELL ABERTEIFI  

Gan Hans Christian Andersen

Yn seiliedig ar stori dragwyddol Hans Christian Andersen, perfformiodd Illyria’r sioe yn gyntaf yn 2000 pan oedd yn ddewis y Beirniaid yng Ngŵyl Fringe Caeredin. 

Mae’r Ymerawdwr yn ddyn hyfryd, ond nad yw’n un da am farnu cymeriad. Yr hyn sy’n ei gadw’n gall yw’r Parêd Misol lle mae’n cael gwisgo ei wisg newydd diweddaraf. Pan mae dau dwyllwr yn rhaffu celwydd gan dwyllo pawb, pa bris bydd yn rhaid iddo dalu? A fydd yn colli ei urddas? Caiff y cwbl ei amlygu yn sioe fwyaf ddigywilydd Illyria erioed!

Yn addas i 5+

Amser Rhedeg: 1 awr 40 muned yn cynnwys egwyl o 20 muned

GWYBODAETH HANFODOL

Bydd gerddi’r Castell ar agor awr cyn amser cychwyn y perfformiad.

Dewch â’ch seddau cefn isel eich hun neu rygiau a dillad cynnes.

Bydd lluniaeth ar gael ar y safle yn y digwyddiadau hyn. Croeso i chi ddod â phicnic i’w fwynhau.   

Mae mynediad cadair olwyn i’r safle perfformio. Nid oes unrhyw barcio cyhoeddus ar y safle.

Caiff perfformiadau eu llwyfannu mewn pob tywydd ond y gwaethaf. Nid yw tocynnau’n ad-daladwy.

Theatr Mwldan yw’r unig fan lle cewch brynu tocynnau ar gyfer y digwyddiadau hyn. Gellir prynu tocynnau wrth y drws, ond mae hyn yn hollol ddibynnol ar argaeledd. Argymhellwn archebu tocynnau o flaen llaw i osgoi cael eich siomi.

Am wybodaeth am y Castell galwch 01239 615131.

GWYBODAETH TOCYNNAU

Caiff eich tocyn ei sganio wrth y fynedfa ar gyfer y digwyddiadau hyn:

Derbyniwn docynnau go iawn (os wnaethoch brynu tocynnau mewn person o’r Mwldan) Gallwn sganio eich archeb ar eich ffôn symudol Gallwch ddod â’ch tocyn ‘printio gartref’ (PWYSIG – sicrhewch pan fyddwch yn printio eich tocynnau eich bod yn defnyddio’r ddolen ‘Click Here To Print Your Tickets’ sy’n cynnwys y codau QR, ac NID y ‘crynodeb tudalen’) Gallwch gasglu eich tocyn ar y noson

Bydd gan bob tocyn ar gyfer y digwyddiadau hyn god QR (fel cod bar) sy’n unigryw i’r unigolyn, a gellir ond ei ddefnyddio unwaith.

Sicrhewch eich bod yn gofalu am eich tocyn(nau) argraffu gartref fel unrhyw docyn arall. Mae gan bob tocyn cod QR unigryw y caiff ei sganio wrth y fynedfa i’r digwyddiad.

Os gwneir copïau o’r tocyn, dim ond y tocyn a ddefnyddir ar gyfer y sgan cyntaf o’r cod bar caiff fynediad.

Os ydyw’r cod bar unigryw eisoes wedi ei sganio, tynnir sylw’r gwasanaethydd a ni chaniateir mynediad. 

£13 (£11) £9 Plant

Browse more shows tagged with: