Illyria - The Hound of The Baskervilles
YN CYMRYD LLE YNG NGHASTELL ABERTEIFI
Gan Sir Arthur Conan Doyle
Pwy laddodd Syr Charles Baskerville? A all unrhyw un rhwystro’r un ffawd rhag dod i ran Syr Henry Baskerville? Oes ‘na wir fytheiad anferth yn crwydro Dartmoor? Pam mae rhywun yn dwyn esgidiau Syr Henry’n systematig? A sut mae bytheiad annaearol yn llwyddo i adael olion pawennau anferthol a thystiolaeth ddigroeso arall ynghylch ei fodolaeth? Mae ditectif enwocaf oll ym myd llenyddiaeth, Sherlock Holmes, a’i gynorthwyydd, Doctor Watson, yn taclo achos mwyaf astrus eu gyrfaoedd yn yr addasiad ffyddlon, haerllug ond iasol hwn..
Hefyd yn y Castell ar Awst 7 - Dewch i ddarganfod pob dim am ysbrydion Castell Aberteifi gyda thaith ysbrydion tywysedig cyffrous. Cynhelir y teithiau trwy gydol y dydd, yn arwain at berfformiad Illyria o Hound of the Baskervilles.
GWYBODAETH HANFODOL
Bydd gerddi’r Castell ar agor awr cyn amser cychwyn y perfformiad.
Dewch â’ch seddau cefn isel eich hun neu rygiau a dillad cynnes.
Bydd lluniaeth ar gael ar y safle yn y digwyddiadau hyn. Croeso i chi ddod â phicnic i’w fwynhau.
Mae mynediad cadair olwyn i’r safle perfformio. Nid oes unrhyw barcio cyhoeddus ar y safle.
Caiff perfformiadau eu llwyfannu mewn pob tywydd ond y gwaethaf. Nid yw tocynnau’n ad-daladwy.
Theatr Mwldan yw’r unig fan lle cewch brynu tocynnau ar gyfer y digwyddiadau hyn. Gellir prynu tocynnau wrth y drws, ond mae hyn yn hollol ddibynnol ar argaeledd. Argymhellwn archebu tocynnau o flaen llaw i osgoi cael eich siomi.
Am wybodaeth am y Castell galwch 01239 615131.
GWYBODAETH TOCYNNAU
Caiff eich tocyn ei sganio wrth y fynedfa ar gyfer y digwyddiadau hyn:
Derbyniwn docynnau go iawn (os wnaethoch brynu tocynnau mewn person o’r Mwldan) Gallwn sganio eich archeb ar eich ffôn symudol Gallwch ddod â’ch tocyn ‘printio gartref’ (PWYSIG – sicrhewch pan fyddwch yn printio eich tocynnau eich bod yn defnyddio’r ddolen ‘Click Here To Print Your Tickets’ sy’n cynnwys y codau QR, ac NID y ‘crynodeb tudalen’) Gallwch gasglu eich tocyn ar y noson
Bydd gan bob tocyn ar gyfer y digwyddiadau hyn god QR (fel cod bar) sy’n unigryw i’r unigolyn, a gellir ond ei ddefnyddio unwaith.
Sicrhewch eich bod yn gofalu am eich tocyn(nau) argraffu gartref fel unrhyw docyn arall. Mae gan bob tocyn cod QR unigryw y caiff ei sganio wrth y fynedfa i’r digwyddiad.
Os gwneir copïau o’r tocyn, dim ond y tocyn a ddefnyddir ar gyfer y sgan cyntaf o’r cod bar caiff fynediad.
Os ydyw’r cod bar unigryw eisoes wedi ei sganio, tynnir sylw’r gwasanaethydd a ni chaniateir mynediad.