ILLYRIA: ROBIN HOOD

YM CYMRYD LLE YNG NGHASTELL ABERTEIFI

HYRWYDDIR AR Y CYD GAN Y MWLDAN A CASTELL ABERTEIFI

Mae Illyria yn ôl! Yr haf hwn, gadewch i'r cwmni gwobrwyedig eich tywys i ffwrdd.... 

Gyda’r Brenin Richard i ffwrdd yn rhyfela, bydd y cyfoethog a’r pwerus yn rhaffo celwyddau, yn twyllo, ac yn torri pob rheol er mwyn cipio pŵer. Ac maen nhw'n barod i chwarae'n frwnt! Yn ffodus, felly hefyd mae Robin Hood anturus a beiddgar a'i dîm o wrthryfelwyr misffit. Gyda'i gilydd, maen nhw'n cynllwynio i ddymchwel y Siryf Nottingham llwgr, y Tywysog John cynllwyngar, a phob dihiryn barus y maen nhw'n ei gyfarfod ar hyd y ffordd. Mae’n heist cyflym ar gyfer pob oed – ac nid yw Robin Hood byth yn methu targed! Mae’r cynhyrchiad hwn yn llawn cyffro a chwerthin yn groch, anturiaethau beiddgar a dial cwbl haeddiannol! Dewch â phicnic wrth i Illyria ymuno â thymor bythgofiadwy arall o theatr awyr agored.

Hyd y perfformiad (tua): 1 awr 50 munud (gan gynnwys egwyl o 20 munud). 

Mae’n addas ar gyfer oedran 5+ (croeso i blant iau hefyd)

£16 (£14 Concession) £10 Plant

  • Ni roddir ad-daliadau ar docynnau ar gyfer digwyddiadau a hyrwyddir ar y cyd gan Gastell Aberteifi | Y Mwldan.
  • Y Mwldan yw'r unig werthwr tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn.
  • Mae'r amserau'n amodol ar hyn o bryd a byddant yn cael eu cadarnhau yn nes at yr amser.
  • Cewch fwy o wybodaeth hanfodol drwy e-bost cyn y digwyddiad.
  • Ni ddarperir unrhyw gadeiriau yn y digwyddiad hwn. Dewch â’ch seddau cefn isel eich hun neu rygiau.

  • Siaradwch â'n swyddfa docynnau os oes gennych unrhyw ofynion hygyrchedd a gwnawn ein gorau i ddarparu ar gyfer hynny. 
  • Argymhellir archebu tocynnau ymlaen llaw i osgoi cael eich siomi. Ni allwn sicrhau y bydd tocynnau ar gael wrth y drws.
  • Peidiwch â dod ag unrhyw alcohol neu wydr i’r safle.

Browse more shows tagged with: